Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Gofal Lliniarol

Mae Gofal Lliniarol ar gael i gleifion nad yw eu clefyd neu salwch yn ymateb rhagor i driniaeth iachaol. Gall hyn gynnwys y rheini y mae canser neu afiechyd heblaw canser wedi effeithio arnynt, er enghraifft camau terfynol clefyd yr ysgyfaint, clefyd y galon, clefyd niwronau motor, a sglerosis ymledol.

Mae'r Tîm Gofal Iliniarol Ysbyty 

Mae'r tîm gofal lliniarol ysbyty yn Ysbytai Athrofaol Cymru a Llandochau, sy'n ymdrin ag ysbytai ategol y Barri, Dewi Sant, Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn darparu gwasanaeth i gleifion a'u teuluoedd. Drwy wasanaeth aml-broffesiwn, integredig, ein nod yw ymateb yn effeithiol, gan gynnig cyngor a chymorth arbenigol yn yr ysbyty. Drwy gydweithio byddwn yn cefnogi, addysgu, annog a grymuso aelodau eraill o staff i ddarparu gofal effeithiol.

Mae'r tîm yn darparu cysylltiadau â'r timau Gofal Lliniarol Cymunedol a hosbisau lleol, gan sicrhau gofal a chymorth di-dor rhwng yr ysbyty a'r gymuned.  

Yr hyn a ddarparwn: 

  • Rheoli Symptomau
  • Cymorth a chwnsela i gleifion a'u teuluoedd
  • Gwybodaeth
  • Cyswllt rhwng y tîm amlddisgyblaethol i helpu i ryddhau cleifion gartref neu eu trosglwyddo i unedau arbenigol 
  • Cymorth addysgol

Lleoliadau

Ysbyty Athrofaol Cymru

Tîm Gofal Lliniarol
Cyntedd Ysbyty Athrofaol Cymru
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XW

Rhif ffôn: 029 2074 3377
Rhif ffacs: 029 2074 3723

Ysbyty Athrofaol Llandochau

Tîm Gofal Lliniarol
Y Coridor Iechyd Plant
Ysbyty Athrofaol Llandochau
Heol Penlan, Penarth
CF64 2XX

Rhif ffôn: 029 2182 5196
Rhif ffacs: 029 2182 5691

Gofal Lliniarol Arbenigol Cymunedol

Darperir Gofal Lliniarol Arbenigol Cymunedol yn lleol gan ddau wahanol ddarparwr sy'n cyflenwi gwasanaethau tebyg i gleifion a'u teuluoedd yn eu cartrefi eu hunain - mewn Cartrefi Gofal neu mewn canolfan Gofal Lliniarol Arbenigol, fel yr Hosbis Marie Curie.

Bydd y tîm Gofal Lliniarol Ysbyty yn hwyluso atgyfeirio i un o'r sefydliadau hyn (isod) pan fydd cleifion am gael eu rhyddhau o'r ysbyty. Gwneir hyn mewn ymgynghoriad â meddyg teulu a Nyrs Ardal y claf. 

Hosbis Marie Curie
Bridgeman Road
Penarth.
Teleffon: 029 2042 6000. 
Gwefan: www.mariecurie.org.uk

Cymorth Canser Macmillan
Cardigan House
Caerdydd
CF144XW
Teleffon: 0808 808 0000
Gwefan: www.macmillan.org.uk 

City Hospice

Tir Ysbyty'r Eglwys Newydd
Park Road, yr Eglwys Newydd,
Caerdydd CF14 7BF
Teleffon: 029 2052 4150. 
Gwefan: www.cityhospice.org.uk

Mae Pob Moment o Bwys

Gwyddom pa mor bwysig yw gofal diwedd oes tosturiol, parchus ac urddasol i gleifion a’u hanwyliaid. I gefnogi hyn, mae Tîm Gofal Lliniarol yr Ysbyty wedi cyflwyno Mae Pob Moment o Bwys i helpu i greu amgylchedd tawelach a mwy heddychlon yn ystod y cyfnod arwyddocaol hwn. 

Mae’r fenter ‘Mae Pob Moment o Bwys’ wedi'i dylunio i wella urddas a pharch tuag at gleifion yn nyddiau olaf eu bywydau. Fel rhan o hyn, bydd symbol newydd yn cael ei gyflwyno ar draws ein hardaloedd clinigol i godi ymwybyddiaeth pan fydd claf yn derbyn gofal diwedd oes. 

Os bydd claf neu ei anwyliaid yn dewis arddangos y symbol hwn, bydd yn fodd i atgoffa cleifion eraill, ymwelwyr a chydweithwyr i fod yn ystyriol ac i fynd at yr ardal gydag ymwybyddiaeth, sensitifrwydd a pharch ychwanegol. Os gwelwch y symbol hwn yn cael ei arddangos yn ardal claf, byddwch yn ymwybodol o lefelau sŵn, ac ystyriwch y rhai gerllaw. 

 

Dilynwch ni