Mae'n ofynnol i ddeintyddion flaenoriaethu mynediad at driniaeth ar sail angen clinigol a risg.
Ar gyfer cleifion sy’n rhan o Bractis Deintyddol Cyffredinol, pan fydd eich apwyntiadau archwilio arferol ar gael, bydd eich deintydd yn cysylltu â chi.
Os nad oes gennych Ddeintydd y GIG, y Porth Mynediad Deintyddol yw eich ffordd newydd I gofrestru eich diddordeb ar gyfer triniaeth ddeintyddol GIG reolaidd.
Mae hyn yn cymryd lle’r rhestr aros ganolog yng Nghaerdydd a'r Fro, ond os ydych chi eisoes wedi ychwanegu eich manylion i hyn rydych wedi cael eich trosglwyddo’n awtomatig i'r system newydd. Mae’r polisi preifatrwydd atodedig yn disgrifio beth mae hyn yn ei olygu i chi os ydych wedi rhoi eich manylion i ni o’r blaen.
Dylech gysylltu â'ch deintydd yn ystod eu horiau agor arferol os oes angen gofal deintyddol brys arnoch, ar gyfer triniaeth frys y tu allan i oriau, gellir dod o hyd i wybodaeth o dan adran y Gwasanaeth Deintyddol Brys (EDS).