Mae'r gwasanaeth Seicoleg Iechyd Plant yn cynnig cefnogaeth i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd i'w helpu i reoli effaith byw gyda phroblem iechyd neu dderbyniad i'r ysbyty. Mae Seicolegwyr Clinigol yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig sy'n gweithio ochr yn ochr â meddygon, nyrsys, ffisiotherapyddion, deietegwyr, arbenigwyr chwarae, therapyddion galwedigaethol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sydd wedi'u lleoli yn Ysbyty'r Plant.
Mae cyfarfod â seicolegydd yn rhoi cyfle i bobl feddwl, siarad am bethau a meddwl am syniadau newydd.
Rydym yn helpu plant a'u teuluoedd gyda phob math o anawsterau, er enghraifft:
I weld a allech chi neu'ch plentyn fanteisio ar gymorth seicolegol, trafodwch hyn yn eu hapwyntiad meddygol nesaf.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.