Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae Seicolegydd Paediatrig yn helpu?

Rydym yn helpu pawb yn wahanol ac mae gennym lawer o wahanol dechnegau, ond dyma rai o'r pethau y byddwn yn eu gwneud:

  • Gofyn cwestiynau, siarad â chi a gwrando arnoch wrth ichi ddweud wrthym am y pethau sy'n peri anhawster i chi neu bethau y gall fod angen help gyda nhw.
  • Gofyn ichi gadw dyddiadur o deimladau, ymddygiadau neu symptomau penodol er mwyn inni ddod i'w hadnabod gyda'n gilydd.
  • Chwarae gemau arbennig neu dynnu llun i'n helpu i ddod i'ch adnabod chi.
  • Dod o hyd i grŵp y gallech ymuno ag ef i gwrdd â phobl eraill sy'n cael anawsterau tebyg.
  • Cwrdd â'ch teulu neu'r staff sy'n gweithio gyda chi ar wahân, i'w helpu nhw i'ch helpu chi.

Efallai mai dim ond un neu ddau gyfarfod y bydd eu hangen arnoch, neu efallai bydd angen rhagor. Mae'n amrywio i wahanol bobl a phroblemau. 

Ydy ein gwasanaeth yn gyfrinachol?

Mae'n bwysig ein bod yn cadw'r pethau a ddywedwch yn breifat.

Mae weithiau'n ddefnyddiol i bobl eraill fel eich teulu, eich ysgol neu'ch tîm meddygol wybod rhai pethau er mwyn eich helpu chi. Byddwn yn trafod gyda chi ymlaen llaw ba wybodaeth yr hoffech ei rhannu.

Yr unig bryd na fyddem yn cadw pethau'n breifat yw sefyllfa lle byddem yn poeni'n fawr amdanoch chi neu rywun arall, pan fyddai angen inni ddweud wrth rywun am y peth er mwyn cadw pawb yn ddiogel.

 

Dilynwch ni