Neidio i'r prif gynnwy

Pryd fydd Seicolegydd Paediatrig yn cael ei gynnwys efallai?

Yn aml, gofynnir inni gwrdd â phlant a'u teuluoedd, a hynny fel arfer am eu bod yn cael amser caled rywsut neu ei gilydd. Mae cwrdd â seicolegydd yn rhoi cyfle i bobl feddwl, siarad am bethau ac ystyried rhai syniadau newydd.

Byddwn yn helpu plant a'u teuluoedd gyda phob math o anawsterau, er enghraifft:

  • Triniaethau a allai fod yn peri gofid i chi.
  • Eich cefnogi i fyw gyda'ch anhwylder meddygol.
  • Eich helpu i wneud newidiadau cadarnhaol.
  • Meddwl am deimladau cryf fel bod yn drist, yn ofnus neu'n flin. 
  • Eich helpu i ymdopi â chymryd tabledi neu gael profion gwaed / meddygol (yn aml gyda chymorth y tîm chwarae). 
  • Eich helpu i wneud dewisiadau am eich triniaeth.
  • Eich helpu i ymdopi pan fyddwch mewn poen.
  • Ymdopi â blinder a theimlo'n ddigalon.
  • Ymdopi â newidiadau yn eich corff. 
  • Eich helpu i drafod eich pryderon am y dyfodol.
  • Delio â theimladau sy'n gysylltiedig â'ch anhwylder, fel teimlo'n wahanol. 
  • Helpu gyda phroblemau penodol fel cysgu, bwyta, symud neu ddefnyddio'r tŷ bach.
  • Eich helpu i drafod pryderon am yr ysgol.
  • Ymdopi â phroblemau iechyd a allai waethygu pan fyddwch yn poeni. 

Os oes angen imi weld Seicolegydd, ydy hynny'n golygu bod rhywbeth o'i le arnaf? 

Nac ydy, dim o gwbl. Ond mae llawer o'r bobl ifanc a'r teuluoedd sydd wedi'n gweld ni wedi dweud wrthym fod hyn yn eu poeni'n fawr cyn iddynt gwrdd â'u seicolegydd.

Gall problem iechyd corfforol fod yn waith caled iawn ynghyd â byw drwy droeon arferol plentyndod, yr arddegau neu fywyd teuluol. Mae'r seicolegwyr yno i helpu i siarad drwy'r 'troeon' hyn y bydd llawer o bobl sy'n dod i'r ysbyty yn mynd drwyddynt, ar ryw adeg neu ei gilydd.

Dilynwch ni