Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw Seicolegydd Clinigol Paediatrig?

Seicolegydd Clinigol yw rhywun sydd wedi'i hyfforddi i ddeall sut mae pobl yn meddwl, teimlo ac ymddwyn. Rydym yn gweithio gyda gweddill y timau yn yr ysbyty gan gynnwys y meddygon, nyrsys, therapyddion a staff chwarae. Mae Seicolegwyr Clinigol dan Hyfforddiant a Seicolegwyr Cynorthwyol yn gweithio gyda ni hefyd. Efallai y byddwch yn ein gweld ni o gwmpas y Clinig Cleifion Allanol i Blant, neu ar y wardiau.

Hyfforddiant

Bydd Seicolegydd Clinigol wedi gwneud o leiaf 6 blynedd o hyfforddiant Prifysgol (gradd israddedig mewn Seicoleg wedyn doethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol). Bydd hefyd wedi treulio nifer o flynyddoedd yn gweithio gyda phobl o bob gwahanol oedran â gwahanol anawsterau. Erbyn hyn, mae Seicolegwyr Clinigol Paediatrig wedi dewis arbenigo mewn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag anghenion iechyd.

Beth mae Seicolegydd Clinigol Paediatrig yn ei wneud mewn gwirionedd?

Rydym yn gwrando ar bryderon ac yn helpu plant, pobl ifanc a'u teuluoedd i ymdopi ag anawsterau sy'n gallu dod o gael anhwylder meddygol neu driniaeth. Byddwn yn ceisio deall y sefyllfa y mae pobl ynddi, a'u helpu i wneud newidiadau cadarnhaol. 

Mae gan Seicolegwyr Clinigol Paediatrig y teitl ‘Dr’, ond maen nhw'n wahanol i'r meddygon a allai fod yn gofalu amdanoch yn yr ysbyty. 

Fyddwn Ni Ddim:

  • Yn gwisgo cotiau gwyn
  • Yn rhoi meddyginiaeth i chi na phigiadau nac yn eich archwilio chi
  • Yn darllen meddyliau
  • Yn rhoi canfodyddion celwydd i chi
  • Yn gwneud penderfyniadau ar eich rhan
  • Yn eich barnu

Mi Fyddwn:

  • Yn hoffi siarad â chi
  • Yn hoffi gwrando arnoch chi
  • Yn holi am unrhyw broblemau sydd gennych
  • Yn holi am eich ffrindiau a'ch hobïau
  • Yn siarad am eich bywyd cartref ac ysgol
  • Yn chwarae gemau
  • Yn tynnu llawer o luniau ac yn creu pethau
  • Yn cymryd eich pryderon o ddifrif, ac yn gwneud ein gorau glas i wneud ichi deimlo'n well

 

Dilynwch ni