Seicolegydd Clinigol yw rhywun sydd wedi'i hyfforddi i ddeall sut mae pobl yn meddwl, teimlo ac ymddwyn. Rydym yn gweithio gyda gweddill y timau yn yr ysbyty gan gynnwys y meddygon, nyrsys, therapyddion a staff chwarae. Mae Seicolegwyr Clinigol dan Hyfforddiant a Seicolegwyr Cynorthwyol yn gweithio gyda ni hefyd. Efallai y byddwch yn ein gweld ni o gwmpas y Clinig Cleifion Allanol i Blant, neu ar y wardiau.
Hyfforddiant
Bydd Seicolegydd Clinigol wedi gwneud o leiaf 6 blynedd o hyfforddiant Prifysgol (gradd israddedig mewn Seicoleg wedyn doethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol). Bydd hefyd wedi treulio nifer o flynyddoedd yn gweithio gyda phobl o bob gwahanol oedran â gwahanol anawsterau. Erbyn hyn, mae Seicolegwyr Clinigol Paediatrig wedi dewis arbenigo mewn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag anghenion iechyd.
Beth mae Seicolegydd Clinigol Paediatrig yn ei wneud mewn gwirionedd?
Rydym yn gwrando ar bryderon ac yn helpu plant, pobl ifanc a'u teuluoedd i ymdopi ag anawsterau sy'n gallu dod o gael anhwylder meddygol neu driniaeth. Byddwn yn ceisio deall y sefyllfa y mae pobl ynddi, a'u helpu i wneud newidiadau cadarnhaol.
Mae gan Seicolegwyr Clinigol Paediatrig y teitl ‘Dr’, ond maen nhw'n wahanol i'r meddygon a allai fod yn gofalu amdanoch yn yr ysbyty.
Fyddwn Ni Ddim:
Mi Fyddwn: