Mae'r Gwasanaeth Oncoleg Acíwt (AOS) yn cefnogi cleifion canser sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty ac sy'n sâl gyda chymhlethdod o ganlyniad i'w canser, sgîl-effeithiau eu triniaeth canser (cemotherapi neu radiotherapi) neu sydd wedi cael diagnosis newydd o ganser.
Beth mae ein gwasanaeth yn ei gynnig
Gwybodaeth a chyngor i gleifion / gofalwyr pan fydd claf wedi:
- Cymhlethodau o ganlyniad i'w triniaeth canser h.y. Cemotherapi, Radiotherapi ac Imiwnotherapi
- Cymhlethdodau o ganlyniad i ganser hysbys
- Diagnosis newydd / a amheuir
- Malaenedd o Darddiad Anhysbys (MUO) neu Ganser Nad yw ei Darddiad Sylfaenol yn hysbys (CUP)
- Cywasgiad Metastatig ar Linyn Asgwrn y Cefn (MSCC) a amheuir neu a gadarnhawyd
Mae'r gwasanaeth ar gael ar hyn o bryd o ddydd Llun i ddydd Gwener o fewn oriau swyddfa, 9.00am - 5.00pm. Yn cwmpasu ysbytai derbyn aciwt Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau. Ein nod yw gweld pob claf yn cael ei atgyfeirio i'r gwasanaeth o fewn 24 awr i'r atgyfeiriad. Ymdrinnir ag atgyfeiriadau o ddydd Gwener neu ar benwythnosau ar y diwrnod gwaith nesaf (dydd Llun neu ddydd Mawrth os gŵyl y banc).
Beth yw ein nodau
- Ddarparu asesiad ac adolygiad amserol ar gyfer cleifion canser
- Gwella canlyniadau clinigol a chanlyniadau cleifion, a phrofiad pobl â chanser sy'n cael eu derbyn yn acíwt a'u gofalwyr
- Gweithio'n agos gyda phob adran yn y bwrdd iechyd a Chanolfan Ganser Felindre
- Sicrhau atgyfeiriadau cyflym i arbenigeddau eraill os oes angen
- Darparu cyngor a chefnogaeth i staff clinigol sy'n gofalu am gleifion canser
- Cynnal ymweliadau rheolaidd â'r wardiau y mae cleifion wedi'u derbyn iddynt
- Lleihau hyd arosiadau
Pwy ydyn ni
- Dr Juliette Lewis - Onco-geriatregydd Oncoleg Acíwt Macmillan
- Jane Whittingham - Uwch Ymarferydd Nyrsio Oncoleg Acíwt Macmillan
- Helen McMillan - Arbenigwr Nyrsio Clinigol Oncoleg Acíwt Acíwt Macmillan
- Sarah Grady - Arbenigwr Nyrsio Clinigol Oncoleg Acíwt Macmillan
- Sally Jones - Arbenigwr Nyrsio Clinigol Oncoleg Acíwt Macmillan
- Karen Gillespie - Nyrs Glinigol Arbenigol Oncoleg Acíwt
- Rebecca Griffiths - Nyrs Glinigol Arbenigol Oncoleg Acíwt
- Sally Brown - Therapydd Galwedigaethol Arbenigol Oncoleg acíwt
- Suzanne Leverton - Ffisiotherapydd Arbenigol Oncoleg Acíwt
- Rebecca Christy-Harold - Deietegydd Arbenigol Oncoleg Acíwt
- Jeorgia Greenfield - Cydlynydd Gwasanaeth Oncoleg Acíwt Macmillan
Taflenni gwybodaeth i gleifion Macmillan
Canser Nad yw ei Darddiad Sylfaenol yn Hysbys (CUP) yw pan wneir diagnosis o canser eilaidd, ond hyd yn oed ar ôl i brofion gael eu cynnal, ni all meddygon ddweud ble y dechreuodd y canser gyntaf. Nid yw'r canser sylfaenol yn hysbys.
Dysgwch am ganserau sylfaenol ac eilaidd, sut gwneir diagnosis o CUP, triniaethau y gallech eu cael, sgîl-effeithiau posibl a sut i gael cymorth pellach.
Canser Nad yw ei Darddiad Sylfaenol yn Hysbys (CUP)
Mae Cywasgiad Metastatig ar Linyn Asgwrn y cefn (MSCC) yn digwydd pan fydd canser yn tyfu yn yr asgwrn cefn neu'n agos ato ac yn pwyso ar linyn asgwrn y cefn a'r nerfau. Gall unrhyw fath o ganser ledaenu i esgyrn llinyn yr asgwrn cefn, ond mae MSCC yn fwy cyffredin mewn pobl â chanserau'r fron, yr ysgyfaint neu'r brostad, lymffoma, neu myeloma.
Darganfyddwch fwy am y cyflwr hwn.
Cywasgiad Metastatig ar linyn Asgwrn y Cefn (MSCC)