Mae Cymru yn arwain y ffordd mewn ystod o welliannau gwasanaeth clinigol arobryn i gleifion sydd ag FH a chlefyd cardiofasgwlaidd. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnig nifer o gyfleoedd ar gyfer ymchwil a datblygu.
Mae'r grŵp hwn yn goruchwylio a chynghori ar agweddau ar ymchwil a datblygu yn y Gwasanaeth Rhaeadru Profion FH. Mae'r pwyllgor hwn yn gyfrifol am hwyluso a chydlynu prosiectau ymchwil a datblygu o ansawdd uchel.
Mae ystod o brosiectau ymchwil a datblygu'n cael eu cynnal gan amrywiaeth o bobl, gan gynnwys nyrsys a meddygon, gwyddonwyr clinigol, gwyddonwyr cymdeithasol a genetegwyr.
Mae gennym ddiddordeb mewn canfod:
"Rydym yn ceisio cael gwybod mwy am sut mae genynnau'n dylanwadu ar lefelau colesterol cleifion FH"
Cliciwch ar y ddolen i gael gwybod mwy am ein hymchwil a sut gallwch gymryd rhan...
|
Diolch yn fawr i bawb sydd wedi gwirfoddoli ar gyfer y prosiect hwn. Mae'r ymateb wedi bod yn rhagorol, gyda mwy na 670 o gleifion yn cymryd rhan. Mae'r samplau olaf wedi cael eu hanfon i'r labordy arbenigol i'w dadansoddi, a gobeithiwn adrodd ar y canfyddiadau yn gynnar yn 2017. I gael gwybod mwy am yr astudiaeth CESD, darllenwch Daflen Wybodaeth yr Astudiaeth CESD neu ewch i adran Gwaith Ymchwil Parhaus y wefan. Sylwch fod y broses recriwtio ar gyfer y prosiect hwn wedi gorffen bellach.
|
Mae Kate Haralambos newydd ennill 'Gwobr Ymchwilydd Ifanc y Flwyddyn' yng nghyfarfod 2014 HEART UK a gynhaliwyd yn Warwig.
Cyflwynodd Kate ei hymchwil ar waith peilot ar amrywiolion FH o arwyddocâd ansicr. Enillodd wobr yn flaenorol am waith ar wella'r meini prawf sgorio i arwain y broses o ddewis cleifion ar gyfer profion DNA.
|
Mae rhifyn Ymchwil a Datblygu diweddar Cylchlythyr Fforwm Teuluoedd FH Cymru Gyfan ar gael bellach i'w lawrlwytho.