Beth yw nodau'r driniaeth ar gyfer FH?
Y nod yw lleihau'r perygl o glefyd cardiofasgwlaidd trwy
1. Leihau colesterol LDL
2. Osgoi perygl ychwanegol yn sgil ysmygu
3. Gwella ffactorau ffordd o fyw a deietegol er mwyn cael calon iach.
A oes modd rheoli colesterol gwaed pobl sydd ag FH heb feddyginiaeth?
Nac oes, bron yn ddieithriad. Mae FH yn newid "mewnol" yn y ffordd y mae'r corff yn trin colesterol ac nid yw'n cael ei achosi gan ddeiet neu ffordd o fyw. Felly, bydd angen i bron pob unigolyn sydd ag FH gael meddyginiaeth, a bydd deiet yn cael effaith fach yn unig ar golesterol y gwaed.
Wedi dweud hynny, bydd deiet iach yn helpu i gadw'r galon yn iach mewn llawer o ffyrdd eraill, nad yw'r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu mesur trwy brawf gwaed.
Pa mor bwysig yw rhoi'r gorau i ysmygu?
Mae'n bwysig iawn. Mae ysmygwyr bron teirgwaith yn fwy tebygol o gael clefyd y galon cynnar, a phan fydd FH yn cael ei ychwanegu, mae hyn yn gyfuniad peryglus iawn.
Pa mor effeithiol yw statinau o ran lleihau'r perygl o glefyd y galon cynnar?
Mae statinau'n effeithiol iawn. Mae arsylwadau o waith ymchwil ym Mhrydain a'r Iseldiroedd yn awgrymu bod unigolion ag FH sy'n cael eu trin yn effeithiol â statinau yn adfer eu disgwyliad oes i'r un lefel â'r boblogaeth gyffredinol, yn ôl pob tebyg.
Pa mor isel y dylwn i geisio cael fy ngholesterol wrth gael triniaeth?
Mae canllawiau NICE yn cynghori bod y targed ar gyfer colesterol LDL mewn oedolion yn fwy na 50% o'r man cychwyn. Ond mae angen addasu'r ffigur hwn yn ôl amgylchiadau clinigol unigol a dylech ymgynghori â'ch meddyg, sy'n arbenigwr ar lipidau yn ddelfrydol, i drafod eich gofynion penodol chi.
Mae canllawiau NICE yn cynghori statin "Dwysedd Uchel" - beth mae hynny'n ei olygu?
Mae hyn yn golygu bod y statinau cryfach, yn enwedig atorvastatin a rosuvastatin, yn angenrheidiol ac yn cael eu dynodi'n glinigol yn aml mewn FH. Gallai statinau dwysedd is, e.e. simvastatin a pravastatin, fod yn effeithiol mewn rhai pobl, ond nid ydynt fel arfer yn lleihau colesterol digon i gyrraedd gwerthoedd targed NICE.
Beth am Ezetimibe (Ezetrol)?
Gallai hyn fod yn angenrheidiol ar gyfer pobl sydd ag FH mewn cyfuniad â statin. Nid yw'r dystiolaeth ei fod yn atal trawiadau ar y galon mor eglur ag ar gyfer statinau. Ond mae'n dda am leihau colesterol LDL pan gaiff ei gyfuno â statin a dyma'r broblem benodol mewn FH.
A ddylwn i boeni am ddiogelwch statinau?
Mae hanes diogelwch statinau yn dda iawn. Ymchwiliwyd yn helaeth i statinau mewn llawer o astudiaethau gyda niferoedd mawr o gleifion. O ran FH, mae buddion therapi statinau yn sylweddol fwy nag unrhyw bryderon diogelwch. Ond dylech ddarllen y taflenni gwybodaeth i gleifion a thrafod unrhyw bryderon a allai fod gennych gyda'ch meddyg.
Beth am sgil-effeithiau statinau?
Mae mwy na 90% o'r bobl sy'n cymryd statinau yn eu goddef yn dda. Dylech ddarllen y rhestr o sgil-effeithiau posibl ar y daflen gwybodaeth i gleifion, ond cofiwch fod y rhan fwyaf o'r rhain yn digwydd mewn nifer fach iawn o gleifion yn unig. Mae rhai pobl yn cael sgil-effeithiau, a'r un mwyaf cyffredin yw poen yn y cyhyrau.
Beth os caf i boen yn fy nghyhyrau?
Os yw'r boen yn para am fwy nag ychydig ddiwrnodau, ac yn digwydd trwy'ch corff i gyd (rhywbeth tebyg i gael y ffliw), mae'n syniad da cael prawf gwaed am farciwr llid y cyhyrau (creatin cinas) tra byddwch yn cymryd y tabledi. Yn dibynnu ar ba mor drafferthus yw'ch symptomau, fe allech ddymuno rhoi'r gorau i gymryd y tabledi i weld a fydd y symptomau'n gwella. Mae'n well cael prawf gwaed cyn rhoi'r gorau i gymryd y tabledi oherwydd gall y gwaed ddychwelyd i lefel normal o fewn ychydig ddiwrnodau, sy'n golygu ei bod yn anodd gwybod ai'r tabledi oedd ar fai os oeddech eisoes wedi rhoi'r gorau i'w cymryd. Weithiau, mae'n anodd gwybod ai statinau sy'n gyfrifol am boen yn y cyhyrau, oherwydd gall hynny ddigwydd am resymau eraill. Hefyd, gall y prawf gwaed ar gyfer creatin cinas fod yn uwch mewn rhai unigolion am resymau eraill, a'r mwyaf cyffredin o'r rhain yw ymarfer corff yn ddiweddar. Felly, mae'n bwysig bod eich sefyllfa'n cael ei hadolygu'n ofalus gan feddyg sydd â phrofiad arbenigol o ofalu am bobl sy'n cael triniaeth gyda statinau (ymgynghorydd clinig lipidau, fel arfer).
Ar ba oedran y dylai plant sydd ag FH gael triniaeth gyda statinau?
O 10 oed a hŷn yn gyffredinol, er y gallai'r driniaeth weithiau gael ei dechrau'n gynharach neu ei hoedi dan oruchwyliaeth arbenigol, yn dibynnu ar amgylchiadau unigol.
A yw statinau'n ddiogel yn ystod beichiogrwydd?
Nid yw statinau'n cael eu hystyried yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd a dylid cymryd rhagofalon atal cenhedlu effeithiol. Gweler tudalen ar wahân ar statinau a beichiogrwydd.
Beth am secwestryddion asid bustlog?
Mae'r meddyginiaethau hyn (Colestipol, Cholestyramine a Colesevelam) yn gweithio yn y coluddyn (y perfeddyn) i atal amsugno asidau bustlog sydd wedi'u gwneud o golesterol. Maen nhw wedi'u dynodi ar gyfer FH ac yn ddiogel iawn yn gyffredinol, ond maen nhw'n aml yn arwain at sgil-effeithiau gastroberfeddol trafferthus, felly maen nhw bellach yn cael eu hystyried yn ail neu'n drydydd ar ôl statinau.