Yng Nghymru, mae gennym wasanaeth wedi'i gydlynu ar gyfer gwneud diagnosis o FH a'i drin ar gyfer cleifion a theuluoedd sydd wedi bod ar waith ers 2010.
Mae hyn yn golygu bod gennym y potensial i gyrraedd a chynnig triniaeth i'r 6000 o bobl yng Nghymru rydym yn amcangyfrif bod ganddynt y cyflwr hwn, ac felly atal clefyd coronaidd y galon cyn pryd.
Mae llawer o'r unigolion hyn heb eu hadnabod o hyd.
Lluniwyd y rhan hon o'r wefan i'ch hysbysu a'ch helpu i adnabod unigolion sydd ag FH, a rhoi gwybodaeth i chi am sut i ofalu am unigolion a'u teuluoedd.