Mae’r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn darparu gwasanaeth deintyddol ar gyfer rhai grwpiau cleifion nad ydynt yn gallu cael mynediad at ymarferydd deintyddol cyffredinol. Mae’r garfan hon yn cynnwys:
Oedolion a phlant ag un neu fwy o’r canlynol: anabledd corfforol, anabledd dysgu, cyflyrau meddygol cymhleth, nam synhwyraidd difrifol, cyflyrau iechyd meddwl difrifol, pryder deintyddol neu ffobia sy’n atal y person rhag defnyddio gwasanaethau deintyddol cyffredinol
Pobl sy’n ceisio noddfa yng Nghaerdydd a’r Fro
Plant sydd o dan ofal yr awdurdod lleol
Pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal neu nyrsio
Pobl sy’n gaeth i’w cartrefi
Oedolion sy’n profi digartrefedd