Bydd angen i chi gael eich atgyfeirio gan eich deintydd, neu os oes gennych gyflwr meddygol efallai y cewch eich atgyfeirio gan eich meddyg.
Os bydd eich problem yn gwella ac nad oes angen i chi fynychu mwyach, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni fel y gallwn gynnig yr apwyntiad i rywun arall. Os bydd eich problem yn gwaethygu, mae'n rhaid i chi ymweld â'ch ymarferydd atgyfeirio gan mai ef/hi sy'n gyfrifol am eich gofal a’ch meddyginiaeth lleddfu poen tra byddwch yn aros am eich apwyntiad cyntaf gyda ni.
Os nad oes gennych ddeintydd yna mae'n rhaid i chi geisio gofal trwy'r llinell gymorth ddeintyddol frys trwy CAF 24/7 ar 0300 10 20 247.
Rhowch wybod i ni, naill ai dros y ffôn (029 20 190175) neu drwy'r post os bydd eich manylion personol yn newid.
Anfonwch fanylion i:
Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol
Canolfan Iechyd Glan yr Afon
Stryd Wellington
Caerdydd
CF11 9SH.
Nid yw’r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn codi tâl am driniaeth.
Fodd bynnag, os cewch eich trin fel achos brys drwy’r llinell gymorth ddeintyddol, fe godir tâl deintyddol Band 1.
Poen dannedd difrifol, chwydd wyneb, trawma deintyddol a gwaedu yn ddi-reolaeth ar ôl tynnu dant.
Os na allwch ddod i'ch apwyntiad rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl fel y gellir cynnig yr apwyntiad i rywun arall.
Os na fyddwch yn cysylltu â ni efallai y cewch eich rhyddhau.
Gall cleifion sydd am gael mynediad at Ddeintydd GIG ledled Caerdydd a Bro Morgannwg gofrestru eu hunain ar ein rhestr aros ar gyfer Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol.
Bydd yn dibynnu ar ba mor frys yw eich triniaeth. Fodd bynnag, rydym yn gweithio o fewn canllawiau Llywodraeth Cymru.
Na, gall cleifion drefnu cludiant ambiwlans eu hunain trwy gysylltu â'r Ganolfan Trefnu Cludiant ar 0800 32 82 332 i drefnu cludiant ambiwlans.
Rhaid i chi roi o leiaf 48 awr o rybudd, a chael yr holl wybodaeth berthnasol angenrheidiol gyda chi megis enw, cyfeiriad, rhif ysbyty, enw ysbyty neu glinig, a dyddiad ac amser yr apwyntiad.
Mae'r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn darparu ymweliadau cartref.
Rhaid i unrhyw un sydd angen ymweliad cartref ffonio 029 2019 0175 i gael rhagor o wybodaeth ac asesiad. Sylwch, mae meini prawf llym ar gyfer defnyddio’r gwasanaeth hwn