Mae’r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol (CDS) yn cynnig y gwasanaethau canlynol i gleifion sy’n bodloni meini prawf y CDS:
- Triniaeth ddeintyddol i oedolion ag anghenion ychwanegol sy’n bodloni’r gofynion deintyddiaeth gofal arbennig a phlant sydd angen gofal deintyddol pediatrig arbenigol
- Gwasanaeth Cartref i’r rhai nad ydynt yn gallu mynd i glinig
- Gwasanaeth deintyddol symudol (yn yr ysgol ac mewn clinig)
- Triniaeth ddeintyddol o dan dawelydd ymwybodol.
- Cadair Ddeintyddol Bariatrig Ganolraddol
- Gwella Iechyd y Geg i Bobl sy’n Byw mewn Cartrefi Gofal, trwy gyflwyno rhaglen ‘Gwên am Byth’ (GAB).
- Rhaglen sgrinio deintyddol yn yr ysgol i atal pydredd dannedd, ‘Cynllun Gwên’ (D2S)
- Gofal deintyddol i oedolion sy’n profi digartrefedd.
- System dolen glywed ar gael ym mhob un o’n clinigau.
- Darperir sesiynau triniaeth ddeintyddol brys ar rai o’n safleoedd, mae angen brysbennu a threfnu ymlaen llaw drwy’r Llinell Ddeintyddol Frys (0300 10 20 247).
- Mae gwasanaethau dehongli drwy’r Llinell Iaith hefyd ar gael mewn rhai clinigau.