Neidio i'r prif gynnwy

Ein Nodau

Cydnabyddir yn eang bod gan bobl ag anableddau dysgu nifer fwy o broblemau iechyd na mwyafrif y boblogaeth ac maent yn fwy tebygol o gael eu derbyn i'r ysbyty.

Yn ogystal:
  • Mae 1,200 o bobl ag anableddau dysgu o dan ofal y GIG yn marw bob blwyddyn, marwolaethau y gellid bod wedi eu hosgoi (Mencap)
  • Mae menywod ag anableddau dysgu yn marw ar gyfartaledd 20 mlynedd yn gynharach na menywod eraill
  • Mae dynion ag anableddau dysgu yn marw 13 mlynedd yn gynharach na dynion eraill

Mae'r Gwasanaeth Cyswllt ar gyfer Anableddau Dysgu wedi'i ddatblygu i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd y mae pobl ag anableddau dysgu yn eu profi.

Nodau'r Gwasanaeth Cyswllt ar gyfer Anableddau Dysgu yw:
  • Gweithio'n agos gyda gwasanaethau gofal iechyd acíwt ac eilaidd i ganfod sut i ymateb i anghenion iechyd pobl ag anableddau dysgu
  • I wella canlyniadau iechyd pobl ag anableddau dysgu
  • Gwella profiad gwasanaethau gofal iechyd i gleifion ag anableddau dysgu a'u teuluoedd
  • Rhoi cyngor ac arweiniad i adrannau a wardiau ar wneud addasiadau rhesymol i ofalu am gleifion ag anableddau dysgu
  • I ddarparu cyngor ac arweiniad mewn perthynas ag ymddygiadau sy'n heriol
  • Codi ymwybyddiaeth, gwella sgiliau a darparu hyfforddiant i gydweithwyr mewn gwasanaethau gofal iechyd acíwt ac eilaidd
  • Datblygu cynlluniau ochr yn ochr â chydweithwyr mewn lleoliadau gofal iechyd acíwt ac eilaidd, er mwyn sicrhau bod y rhai sydd ag anghenion cymhleth ychwanegol yn cael mynediad at ofal iechyd yn effeithiol ac yn briodol.

 

 

    Dilynwch ni