Mae'r Tîm Gwasanaethau Cyswllt ar gyfer Anableddau Dysgu yn cynnig cymorth i oedolion sydd wedi cael diagnosis o anableddau dysgu sy'n mynychu'r ysbyty ar gyfer gofal apwyntiadau cleifion allanol, cleifion dydd a chleifion mewnol.
Bydd y tîm yn gweithio ochr yn ochr â thimau anableddau dysgu cymunedol, darparwyr gofal, teuluoedd a gofalwyr i sicrhau’r canlyniadau iechyd gorau i'r bobl maen nhw'n eu cefnogi.
Mae'r tîm yn cwmpasu Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty Athrofaol Llandochau, Ysbyty Dewi Sant, Ysbyty'r Barri
Mae'r Nyrsys Cyswllt Anableddau Dysgu wedi'u lleoli yn Nhŷ Mynwy, Ysbyty Athrofaol Cymru ac mae Andy Jones, Arweinydd Anableddau Dysgu Caerdydd a'r Fro, wedi'i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Cysylltiadau e-bost:
Oriau craidd y Gwasanaeth Cyswllt Anableddau Dysgu yw dydd Llun i ddydd Gwener 8.00am – 4.00pm (ac eithrio gwyliau banc)
Dylid cyfeirio ymholiadau ac atgyfeiriadau e-bost y tu allan i oriau gwaith at gyfeiriad e-bost y tîm isod a byddant yn ymateb ar ôl dychwelyd i'r gwaith:
Learningdisability.liaison@wales.nhs.uk