Mae hawl gan bob person i deimlo’n ddiogel ac wedi’i barchu wrth geisio cyngor meddygol. Mae CAVHIS yn anelu at ddarparu gwasanaeth parchus a holistaidd sy’n helpu i leihau’r rhwystrau i gael gafael ar ofal sylfaenol.
Mae CAVHIS yn darparu cofrestriad dros dro gydag asesiad iechyd trylwyr, sgrinio iechyd rhywiol, adolygiad meddygol ac unrhyw atgyfeiriadau angenrheidiol brys ar gyfer unigolion y mae gwaith rhyw yn effeithio arnynt, nad ydynt wedi cofrestru gyda meddyg teulu. Gall unigolion hunanatgyfeirio, drwy gysylltu â’r gwasanaeth i wneud apwyntiad dros y ffôn neu drwy fynd i’r dderbynfa.
Mae staff CAVHIS yn ymdrechu i fod mor hyblyg â phosibl wrth ddarparu ar gyfer pobl sy’n galw heibio i ofyn am sgriniad iechyd. Ar ôl cwblhau’r asesiad iechyd a’r sgrinio, caiff unigolion gymorth i gofrestru gyda phractisau meddygon teulu er mwyn cael gafael ar ofal parhaus.
I gael cyngor ar Iechyd Rhywiol cyfeiriwch at adran Iechyd Rhywiol Ein Gwasanaethau.
Gall unrhyw un ddioddef camfanteisio rhywiol, ond mae rhai pobl yn fwy agored i niwed ac yn wynebu fwy o berygl nag eraill. Mae Cymru Ddiogelach yn gweithio i ddiogelu dioddefwyr camfanteisio rhywiol rhag perygl a’u helpu i fyw bywydau diogelach.
Mae StreetLife yn brosiect Cymru Ddiogelach yng Nghaerdydd. Mae eu gwirfoddolwyr a’u gweithwyr prosiect yn helpu’r rhai y mae gwaith rhyw yn effeithio arnynt drwy fentora, eirioli a rhoi mynediad i wasanaethau. Nhw yw’r unig sefydliad yng Nghaerdydd sy’n darparu gwasanaethau allgymorth gyda’r nos a chymorth rheoli achosion.