Mae Bwrdd iechyd Caerdydd a’r Fro yn gweithredu polisi “dim goddefgarwch” tuag at gleifion, perthnasau ac aelodau o’r cyhoedd sy’n ymddwyn yn dreisgar ac yn ymosodol tuag at staff y GIG. Cyflwynwyd y Cynllun Triniaeth Amgen, a elwir hefyd yn Hafan Ddiogel, yn 2004, â’r nod o ddarparu man diogel lle y gallai cleifion sydd wedi bod yn dreisgar neu’n ymosodol tuag at eu meddyg teulu dderbyn Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol. Mae hawl unigolion i dderbyn gwasanaethau gofal sylfaenol prif ffrwd yn parhau i fod yn un o egwyddorion sylfaenol y GIG, ac ni chaiff cleifion sydd wedi eu dileu o restr practis yn syth eu gwahardd rhag derbyn y gwasanaethau hyn.