Mae’r Ganolfan Asesu Sengl yn darparu gwasanaethau 24 awr, gydag asesiad amlddisgyblaethol o angen ar gyfer pobl ddigartref sengl, a bydd hefyd yn darparu llety brys o ansawdd da ar gyfer defnydd tymor byr. Lle bo angen, bydd y llety hefyd yn caniatáu i gleientiaid aros yn hirach er mwyn eu helpu i sefydlogi ac er mwyn asesu eu hanghenion yn llawn. Bydd y ganolfan asesu yn rhan o’r llwybr anghenion cymhleth. Nid oes unrhyw derfyn amser wedi’i osod ar gyfer unigolion sy’n aros yn y Ganolfan Asesu Sengl, fodd bynnag, cydnabyddir, er mwyn osgoi ymwreiddio a phroblemau cysylltiedig, na ddylai unigolion aros yn y Ganolfan Asesu Sengl am gyfnodau hir, a bod symud ymlaen o fewn amserlen resymol yn fuddiol i’r unigolyn. Mae’r nyrs i’r digartref yn gweithio ochr yn ochr â’r tîm yma yn y Ganolfan Asesu Sengl, er mwyn darparu gofal meddygol ar y safle |
Cynhelir yr atgyfeiriadau fel a ganlyn; Dylai sgriniad cychwynnol gan y swyddog asesu ddatgelu person sydd ag anghenion cymorth uchel / cymhleth Yna ceir trafodaeth gyda’r Uwch Swyddog Asesu a Chymorth ynghylch priodoldeb yr atgyfeiriad at y Ganolfan Asesu Sengl Unwaith y ceir cytundeb bod y lleoliad yn addas, caiff staff llety eu hysbysu o’r atgyfeiriad |
Wrth gyrraedd y Ganolfan Asesu Sengl; Byddant yn cael croeso cynnes ac yn cyflawni proses sefydlu gadarnhaol a phroses gofrestru gyda’r staff llety. Fel rhan o’r broses gofrestru, bydd staff llety yn egluro wrthynt pam eu bod yn y Ganolfan Asesu Sengl ac yn pwysleisio pa mor bwysig ydyw eu bod yn ymgysylltu â’u Cydlynydd Achosion Anghenion Cymhleth (gweithiwr CNCC) a natur tymor byr eu lleoliad Unwaith y bydd y broses gofrestru wedi’i chwblhau bydd yr Uwch Swyddog Asesu a Chymorth yn cyfarfod â hwy ac yn egluro wrthynt pwy fydd eu gweithiwr CNCC a beth fydd yn ddisgwyliedig gan y ddwy ochr. Bydd yr Uwch Swyddog Asesu a Chymorth yn ailadrodd pwysigrwydd ymwneud â’r Asesiad Lles a natur tymor byr y llety. Bydd y CNCC yn cysylltu cyn gynted â phosib i ddechrau cwblhau’r Asesiad Lles. Bydd y CNCC yn cychwyn cyfraniad y Tîm Amlddisgyblaethol cyn gynted â phosibl lle bydd angen. Bydd y CNCC yn anelu at gwblhau asesiad o fewn 2 wythnos, fodd bynnag, cydnabyddir y bydd rhai asesiadau yn cymryd hirach oherwydd cymhlethdodau unigolion. |
Bydd lleoliad yn y Ganolfan Asesu Sengl yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr gwasanaethau gael ymyriad a chyfraniad yr MDT ar yr amser cynharaf posibl. Bydd y CNCC yn ceisio atgyfeirio at yr MDT unwaith y bydd anghenion cymorth yr unigolion wedi’u sefydlu ac y byddant wedi cael caniatâd. Bydd clinigwyr yr MDT yn sicrhau, lle y bydd achos wedi’i ddyrannu iddynt, y byddant yn cysylltu cyn gynted â phosibl ac mewn dull rhagweithiol. Lle bydd gan ddefnyddwyr y gwasanaeth anghenion cymhleth fel hunan-niwed, syniadau ynghylch hunanladdiad, yn wynebu risg o gamfanteisio ac ati, bydd y CNCC yn gweithio’n agor gydag aelodau’r MDT ac yn cymryd eu cyngor arbenigol ynghylch y ffordd orau i ddelio â’r sefyllfa. Bydd clinigwyr yr MDT yn chwarae rôl ganolog wrth argymell sut i symud ymlaen ac o ran darparu cymorth pellach a pharhaus i bob unigolyn yn y ganolfan asesu. |