Mae pobl sy’n profi digartrefedd yn aml yn teimlo ar y cyrion a gwyddys eu bod yn wynebu rhwystrau i gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd. Nod CAVHIS yw helpu i leihau’r rhwystrau hynny a chynyddu mynediad i ofal amserol a holistaidd.
Mae’r nyrsys digartrefedd arbenigol yn darparu clinig mynediad agored o ddydd Llun i ddydd Gwener ar ddau safle; ystafelloedd meddygol yn y Ganolfan Opsiynau Tai ac yng Nghanolfan Asesu Sengl newydd Hayes Place.
Ceir gwasanaeth allgymorth hefyd ar gyfer hosteli a phobl sy’n cysgu allan sy’n cael mewnbwn iechyd gan un o’r nyrsys digartrefedd arbenigol. Nid oes practis meddyg teulu penodedig na gwasanaeth gofal iechyd sylfaenol ar gyfer unigolion sy’n profi digartrefedd.
Cânt eu hannog a’u cynorthwyo i gofrestru mewn practisau meddyg teulu lleol ac yna bydd ganddynt yr opsiwn i gael gafael ar ofal sylfaenol yn y ffordd draddodiadol. Mae cymorth meddyg teulu gan CAVHIS yn darparu un sesiwn galw heibio yr wythnos yn y ganolfan opsiynau tai neu yn Hayes Place ar gyfer yr unigolion digartref hynny sy’n newydd i Gaerdydd, nad ydynt wedi cofrestru â meddyg teulu eto.