Neidio i'r prif gynnwy

Cofrestru gyda Phractis GMS

Gall unrhyw un yng Nghymru gofrestru gyda meddyg teulu i gael triniaeth. Nid yw’n angenrheidiol bod â chyfeiriad sefydlog na manylion adnabod i gofrestru, a gall unrhyw un sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu gael presgripsiynau am ddim.

Yr unig ffurflen sydd angen ei chwblhau er mwyn cofrestru yw ffurflen GMS1sydd ar gael yn unrhyw bractis.

Mae gan unrhyw un sydd angen cyfieithydd yr hawl i wneud cais am un heb orfod talu’r gost ei hun. Mae gan y practis meddyg teulu ddyletswydd i ddarparu cyfieithydd ac mae gwasanaethau cyfieithu dros y ffôn ar gael ym mhob practis meddyg teulu.

Oni bai fod y practis meddyg teulu wedi cau eu rhestr neu eich bod yn byw y tu allan i ardal ffin y practis, ni ellir gwrthod eich cofrestru.

Os bydd meddygfa yn gwrthod eich cofrestru, bydd yn rhaid bod ganddynt resymau da dros wneud hynny. Ni ddylai’r rhain ymwneud â hil, cenedl, dosbarth cymdeithasol, oed, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, ymddangosiad, anabledd na chyflwr meddygol.

Os ydych yn credu bod y feddygfa wedi gwrthod eich cofrestru am unrhyw un o’r rhesymau canlynol; hil, rhyw, dosbarth cymdeithasol, oed, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, ymddangosiad, anabledd neu gyflwr meddygol gallai hyn fod yn achos o wahaniaethu. I gael rhagor o gyngor ynghylch hyn dilynwch y ddolen hon: Gwahaniaethu mewn gwasanaethau iechyd a gofal - Tudalen Gartref (citizensadvice.org.uk) 

Dolenni Defnyddiol

Dilynwch ni