Croeso i ALAS
Mae’r Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar (ALAS) yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cyson a theg i bobl yng Nghymru sydd â nam parhaol neu hirdymor. Darperir ein gwasanaethau ar sail oes, gyda thua 150 o staff yn cael eu cyflogi (meddygol, nyrsio, therapi, technegol, gweinyddol a rheolaethol) sy'n gweithio'n agos fel tîm amlddisgyblaethol gyda chontractwyr a chyflenwyr i ddarparu datrysiad addas i gynyddu potensial ein defnyddwyr i adsefydlu yn eu cymuned.
Ein nod yw ei gael yn iawn y tro cyntaf, bob tro, gan ymdrechu i ragori ar ddisgwyliadau ein defnyddwyr pryd bynnag y bo modd. Mae diogelwch ac ansawdd yn parhau i fod wrth wraidd popeth a wnawn, gan alluogi staff i allu darparu’r model gofal mwyaf priodol yn yr amgylcheddau gorau posibl i wneud yr hyn a wnânt orau o ddydd i ddydd – darparu gofal diogel o ansawdd uchel.
Mae'r Gwasanaeth yn darparu asesiad ac offer ar gyfer anghenion ystum corff a symudedd hanfodol pobl anabl.
Mae Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth adsefydlu rhagorol i bobl â nam. Ein nod yw cynyddu gallu a lleihau anabledd.
Comisiynir y Gwasanaethau Aelodau Artiffisial a Chyfarpar ar sail Cymru gyfan gan WHSSC. Darperir y gwasanaethau hyn gan ganolfannau yn Ne Ddwyrain, De Orllewin a Gogledd Cymru.
Mae’r Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar yn gweithredu o dair canolfan ar wahân:
Ein Gwasanaethau