Yr hyn a wnawn
Mae gennym fwy nag 850 o gleifion sy'n mynychu'r clinig wythnosol yn rheolaidd ac, oherwydd natur gynyddol Clefyd Parkinson, bydd y cleifion hyn yn aros dan ein gofal drwy gydol eu hoes. Ymfalchïwn yn fawr yn y dull amlddisgyblaethol a fabwysiadir yn ein clinig, ac mae gennym griw medrus iawn o weithwyr proffesiynol sy'n cyfrannu'n weithgar at reoli'r cleifion hyn. Mae'r clinig yn darparu barn arbenigol am ddiagnosis (yn enwedig pan nad yw'r diagnosis yn amlwg ar unwaith) ac am reoli parhaus yr anhwylder.
- Darparwn gymorth ffurfiol ac anffurfiol i gleifion a gofalwyr mewn safleoedd clinig a chymunedol, gan gynnwys darparu llinell gymorth ffôn a weithredir gan y Nyrs Arbenigol Clefyd Parkinson.
- Yn arbenigwyr clinigol, rydym yn creu llwybrau gofal, yn datblygu safonau ac yn anelu at greu gwasanaeth ymatebol.
- Yn addysgwyr, rydym yn darparu hyfforddiant i bob lefel o aelodau'r tîm amlddisgyblaethol, i staff gwasanaethau cymdeithasol a hyfforddiant cyn graddio ac ôl-raddedig i staff meddygol.
- Yn ymchwilwyr, cynhaliwn archwiliadau rheolaidd er mwyn gwerthuso, gwella a mireinio ein gwasanaeth yn barhaus.
- Fel tîm rydym yn cymryd rhan weithgar mewn ymchwil nyrsio a meddygol gan gynnwys treialon clinigol i helpu i ddatblygu gwybodaeth a thriniaethau ar gyfer y clefyd cymhleth hwn ac anhwylderau perthynol.
- Yn ymgynghorwyr, rydym yn cysylltu ag Asiantaethau Llywodraeth eraill gan gynnwys y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chomisiwn Iechyd Cymru.
- Yn Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol, rydym yn pontio'r bwlch rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd, gan gynnwys cydweithio â Meddygon Teulu a magu cysylltiadau agosach â Chartrefi Nyrsio a Phreswyl.
- Ond yn bwysicach eto, yn Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol, rydym yn arbenigo mewn adnabod symptomau'r anhwylder hwn, gwneud diagnosis ohonynt a'u rheoli, a defnyddio'r meddyginiaethau a'r opsiynau triniaeth sydd ar gael inni yn y modd mwyaf effeithiol gyda'r nod o ddarparu gofal cyfannol sy'n canolbwyntio ar y claf.
Hefyd, rydym wedi datblygu cysylltiadau agos ag Ysbyty Dydd John Pathy, Ysbyty Dydd Llandochau ac Ysbyty Dydd y Barri gyda mynediad at wasanaethau arbenigol gan gynnwys:-
- Staff Meddygol a Nyrsio
- Ffisiotherapi
- Therapi Galwedigaethol
- Dietegydd
- Therapi Lleferydd ac Iaith
- Seicoleg Glinigol
- Tîm Ymataliaeth
Cynhelir hefyd ddiwrnodau Clefyd Parkinson arbenigol a diwrnodau cymorth a gwybodaeth i ofalwyr yn y safle uchod, sy'n denu llawer o gleifion. Mae hyn yn darparu amgylchedd ardderchog i gwrdd â Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol a chleifion eraill â Chlefyd Parkinson i rannu gwybodaeth am eu hanhwylder.
Mae Staff y Clinig yn cynnwys:
- Dau Ymgynghorydd Meddygol sy'n arbenigo mewn Anhwylderau Symud
- Dwy Nyrs Arbenigol Clefyd Parkinson
- Staff Nyrsio
- Fferyllydd â diddordeb arbennig yng Nghlefyd Parkinson
- Gwasanaeth Cof
Gwefannau Defnyddiol
Nod y gwasanaeth yn y dyfodol
- Gwella'r gwasanaeth a ddarperir i'r holl gleifion Clefyd Parkinson ledled BIP Caerdydd a'r Fro.
- Sicrhau bod triniaeth ar gael yn deg i bawb.
- Cydweithio â Chymdeithas Clefyd Parkinson.
- Cynyddu'r cyfleoedd am Ymchwil a Datblygu.
- Datblygu strategaethau i alluogi cleifion a gofalwyr i ymdopi â chanlyniadau seicolegol Clefyd Parkinson, a datblygu perthynas waith agosach â Thimau Iechyd Meddwl.