Rydym yn dîm amlddisgyblaethol dan arweiniad Dr Cherry Shute a Dr Biju Mohammed. Mae ein tîm yn cynnwys cymorth gweinyddol, nyrsys cyswllt cymunedol, deietegwyr, meddygon, gweithwyr cyswllt cof, nyrsys, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion, seicolegwyr a therapyddion lleferydd ac iaith sydd oll yn anelu at ddarparu'r canlynol:
Adnabod dementia ac anhwylderau gwybyddol eraill yn amserol
Asesiad a diagnosis cynhwysfawr
Cyngor a chymorth i gleifion a'u rhoddwyr gofal, yn enwedig y rhai sydd â nam gwybyddol ysgafn, clefyd Alzheimer a chlefydau dementia eraill
Gweithio gydag asiantaethau eraill a darparwyr gwasanaethau i gefnogi unigolion i aros mor annibynnol â phosibl cyhyd â phosibl
Y defnydd gorau o driniaethau cyffuriau a thriniaethau nad ydynt yn gyffuriau a rheoli ar sail tystiolaeth
Pwy rydyn ni'n eu cefnogi
Rydym yn cefnogi oedolion yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg sy'n profi newidiadau i'w cof ac yr amheuir bod ganddynt ddementia neu nam gwybyddol.
Rydym yn gallu darparu cyfieithydd ar y pryd i helpu cleifion i gyfathrebu â ni os nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf a gallwn addasu ein hasesiadau i ddiwallu anghenion gwahanol.
Ynglŷn â nam gwybyddol a dementia
Mae nam gwybyddol ysgafn yn nam gwybyddol nad yw'n bodloni'r meini prawf diagnostig ar gyfer dementia, er enghraifft oherwydd mai dim ond 1 parth gwybyddol yr effeithir arno, neu nad yw’r diffygion yn effeithio'n sylweddol ar weithgareddau bywyd bob dydd (ADLs).
Mae 50% o bobl â nam gwybyddol ysgafn yn datblygu dementia wedi hynny.
Mae dementia yn nam cynyddol mewn o leiaf 2 barth gwybyddol (cof, iaith, ymddygiad, neu swyddogaeth gweledol-ofodol neu weithredol) sy'n arwain at ddirywiad gweithredol sylweddol (digon i effeithio ar ADLs) na ellir ei egluro gan anhwylder arall neu effeithiau andwyol meddyginiaeth.
Beth fydd yn digwydd mewn apwyntiad clinig cof?
Bydd yr apwyntiad fel arfer yn para rhwng 45 munud ac awr.
Mae'n ddefnyddiol i'r person ddod â'r canlynol i apwyntiad:
Ffrind neu berthynas a allai helpu i ateb unrhyw gwestiynau am eu hanes a'u cefnogi yn ystod yr apwyntiad
Rhestr o unrhyw feddyginiaethau rheolaidd
Cymhorthion clyw
Sbectol os ydych chi fel arfer yn eu gwisgo
Cyfieithydd ar y pryd os oes angen (rhowch wybod i ni os oes angen un cyn yr apwyntiad er mwyn i ni allu trefnu un)
Er mwyn ein helpu i ddeall yr anawsterau y mae'r person yn eu profi, yn ystod yr apwyntiad mae'r canlynol yn debygol o ddigwydd:
Gofynnir cwestiynau i'r person am ei gefndir, hanes teuluol, hanes meddygol, addysg a chyflogaeth yn ogystal â'i lefelau gweithredu presennol
Bydd profion gwybyddol yn cael eu cwblhau
Gellir trafod canlyniadau profion diweddar fel profion gwaed a sganiau ar yr ymennydd
Os yn bosibl yn ystod yr apwyntiad, bydd diagnosis tebygol yn cael ei drafod a bydd gwybodaeth yn ymwneud â'r diagnosis a'r cymorth dilynol yn cael ei ddarparu fel y bo'n briodol
Efallai y bydd angen mathau eraill o brofion neu sganiau yn ystod, neu ar ôl yr apwyntiad i wirio am broblemau meddygol sylfaenol neu ymchwilio ymhellach i ddiagnosis
Os oes angen atgyfeiriadau pellach at weithwyr proffesiynol eraill megis therapi lleferydd ac iaith neu seicoleg, neu brofion eraill, bydd y person a'i deulu, gyda’u caniatâd, yn cael gwybod gan y tîm am apwyntiadau a chanfyddiadau
Bydd canfyddiadau apwyntiadau'r Clinig Cof yn cael eu trosglwyddo i feddyg teulu'r unigolyn.
Cefnogaeth ôl-ddiagnostig
Rhoddir cyngor am broblemau'r cof a sut i'w lleihau yn ystod apwyntiad y clinig. Gall trafodaethau am feddyginiaethau, materion cyfreithiol ac ariannol, gyrru, cefnogaeth leol a chymryd rhan mewn ymchwil hefyd fod yn bynciau a drafodir yn ystod yr apwyntiad fel y bo'n briodol. Bydd gwybodaeth ysgrifenedig hefyd yn cael ei darparu yn ôl yr angen.
Ar gyfer pobl sydd wedi cael diagnosis o Nam Gwybyddol Ysgafn (MCI) gellir cynnig cyfle iddynt fynychu'r Grŵp Strategaethau’r Cof neu gael llyfr gwaith i'w gwblhau'n annibynnol.
Ar gyfer pobl sydd wedi cael diagnosis o ddementia, byddant yn cael eu dyrannu i'r Gweithiwr Cyswllt Cof ar gyfer eu hardal a chysylltir â nhw yn yr wythnosau ar ôl apwyntiad y clinig i drefnu ymweliad dilynol gartref. Bydd y Gweithiwr Cyswllt Cof yn aros mewn cysylltiad o leiaf bob 6 mis wrth symud ymlaen. Bydd gan yr unigolyn a'i deulu fynediad i unrhyw aelod o'r MDT sydd ei angen ar unrhyw adeg yn y dyfodol.
Os bydd gan unrhyw un sy'n atgyfeirio at y Tîm Cof, unigolyn sy'n cael ei weld gan y Tîm Cof, neu aelod o'i deulu neu ei ofalwr, unrhyw gwestiynau neu bryderon, fe'u hanogir i gysylltu â ni dros y ffôn neu drwy e-bost.
Ein gwybodaeth gyswllt
Rhif ffôn: 029 2071 6961
E-bost: memory.team@wales.nhs.uk
Cyfeiriad: 3ydd Llawr, Canolfan Academaidd, Ysbyty Athrofaol Llandochau, Ffordd Penlan, CF64 2XX
Gwybodaeth atgyfeirio ar gyfer gweithwyr meddygol proffesiynol
Gall meddygon teulu wneud e-atgyfeiriadau trwy WCP.
Ar hyn o bryd rydym wrthi'n diweddaru ein prosesau atgyfeirio eraill felly anogir unrhyw un na all atgyfeirio drwy WCP i gysylltu â ni ar ein cyfeiriad e-bost: memory.team@wales.nhs.uk.
Os oes angen cyfieithydd ar y person rydych yn ei atgyfeirio, sicrhewch fod yr angen am gyfieithydd ar y pryd a'r iaith sydd ei hangen wedi'i chynnwys yn yr atgyfeiriad.