Ym mis Ionawr 2011, sefydlwyd Uned ECAS (Gwasanaeth Asesu Gofal yr Henoed) y Fro yn Ysbyty Dydd y Barri.
Gwasanaeth yw hwn a weithredwyd yn llwyddiannus ers blynyddoedd lawer yng Nghaerdydd. Caiff cleifion eu hatgyfeirio i'r gwasanaeth hwn gan eu meddyg teulu neu Uned Asesu Argyfwng Meddygol neu Uned Ddamweiniau ac Achosion Brys. Caiff ei staffio gan Ymgynghorydd Geriatreg, Nyrs gofrestredig, Nyrs Therapi Galwedigaethol, Nyrs Ffisiotherapi a Nyrs Gynorthwyol. Ar y mwyaf, mae'r gwasanaeth yn gweld dau glaf newydd ac un claf adolygu bob dydd Llun a dydd Gwener.
Nod uned ECAS yw darparu asesiad mynediad cyflym i bobl sydd mewn perygl o waethygu, neu sy'n gwaethygu gartref neu mewn gofal preswyl, ac y mae cyfraniad amlddisgyblaethol cynnar yn debygol o'u cadw allan o'r ysbyty.
NODAU
Gyda'r holl nodau hyn, ymdrecha'r gwasanaeth i:
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.