Mae'r Ganolfan Adsefydlu wedi Strôc (SRC) yn Ysbyty Athrofaol Llandochau yn cynnig gwasanaeth rheoli ac adsefydlu parhaus i gleifion sydd wedi cael strôc ac sydd wedi'u hatgyfeirio o'r Ward Strôc Acíwt yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Mae gennym uned o 45 gwely sy'n cynnwys 17 o ystafelloedd unigol â chyfleusterau en-suite, a saith ardal o bedwar gwely yr un.
Cynigia'r uned a arweinir gan ymgynghorydd saith diwrnod o adsefydlu i gleifion gyda chymorth Tîm Amlddisgyblaethol mawr.
“Ein Gweledigaeth yw darparu gwasanaeth strôc o'r radd flaenaf, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, i'n poblogaeth, gan sicrhau'r iechyd a lles gorau posibl."
Cwrdd â'r Tîm Adsefydlu wedi Strôc
Cwrdd â'r Gwirfoddolwyr Adsefydlu wedi Strôc
Adnoddau Defnyddiol ar gyfer Strôc
Cysylltwch â Ni