Mae'r Uned Endosgopi wedi ei dangos yn glir ar y cynllun safle YALl hwn
Parcio yn YALl - mae’r cwmni ‘Parking Eye’ yn rheoli parcio yn YALl. Ar hyn o bryd, mae uchafswm amser parcio 4 awr wrth ymweld â'r ysbyty. Fodd bynnag, os oes gennych apwyntiad ar gyfer triniaeth neu therapi endosgopi wedi'i gynllunio, gallwch gofrestru rhif cofrestru eich car gyda'r porthorion yn y porthdy. Bydd hyn yn golygu y bydd ‘Parking Eye’ yn cydnabod efallai y bydd angen i chi aros yn hwy na’r cyfnod 4 awr, gan osgoi dirwy bosibl.
Mae'r porthdy wedi’i leoli ger mynedfa flaen yr ysbyty. Wrth ichi gerdded trwy'r brif fynedfa flaen, byddwch yn pasio siop goffi Aroma ar eich ochr chwith. Ewch ymlaen at y drysau dwbl gwydr ac wrth i chi basio trwyddynt, mae'r porthdy ar yr ochr dde. Yma fe welwch sgrin gyffwrdd i nodi'ch rhif cofrestru. Bydd y porthorion yn gallu cynnig cymorth os bydd angen.
Os ydych chi'n cael unrhyw anhawster dod o hyd i'r porthdy, siaradwch â'r derbynnydd yn y dderbynfa endosgopi, a fydd yn gallu rhoi cyfarwyddiadau pellach i chi.
Prif fynedfa – ar ôl mynd i mewn trwy'r brif fynedfa, dylech ddal i gerdded ymlaen nes i chi gyrraedd y groesffordd. Trowch i'r chwith a cherddwch i lawr y coridor nes i chi weld yr arwyddbost ar gyfer ward Gorllewin 1 a'r Uned Endosgopi. Trowch i'r chwith ac mae derbynfa'r uned endosgopi yn union ar yr ochr chwith.
Mynedfa gyferbyn â'r maes parcio aml-lawr – cerddwch i lawr y llwybr i ochr dde adeilad CAVOC a thrwy'r drws llithro. Trowch i'r dde a cherddwch i lawr y coridor nes i chi weld yr arwyddbost i ward Gorllewin 1 a'r uned endosgopi. Trowch i'r dde ac mae derbynfa'r uned endosgopi yn union ar yr ochr chwith.
Ar ôl cyrraedd y dderbynfa, rhowch eich enw i'r derbynnydd a nodwch pa driniaeth rydych chi wedi dod i'w chael. Os nad oes unrhyw un yn bresennol ar ddesg y dderbynfa pan gyrhaeddwch, eisteddwch i lawr a dylent fod gyda chi cyn bo hir. Mae toiledau ar gael ychydig y tu hwnt i'r dderbynfa ar yr ochr chwith.
Gofynnir i chi lenwi ffurflen wen sy'n cadarnhau'ch manylion gan gynnwys rhifau cyswllt, er mwyn sicrhau bod ein cofnodion cyfrifiadurol yn gyfredol. Yna fe'ch gwahoddir i eistedd yn y dderbynfa nes bod nyrs gymwysedig yn eich galw. Gan fod sawl ystafell endosgopi yn yr uned sy'n cynnal gwahanol fathau o driniaethau endosgopi, efallai na chewch eich galw yn nhrefn cyrraedd y dderbynfa.
Sylwch mai'r amser ar eich llythyr yw eich amser cyrraedd ac NID amser eich triniaeth. Dylech ddisgwyl bod yn yr adran am nifer o oriau o'r amser y byddwch chi'n cyrraedd hyd yr amser eich rhyddhau o'r uned.
Bydd nyrs gymwysedig yn eich galw o'r man aros i mewn i ystafell ochr i ofyn rhai cwestiynau arferol i chi gan gynnwys unrhyw broblemau meddygol a meddyginiaethau (mae'n ddefnyddiol os gallwch ddod â rhestr o unrhyw dabledi rydych chi'n eu cymryd gyda chi). Ar ôl cymryd eich mesuriadau fel pwysedd gwaed a chyfradd y galon, bydd y nyrs yn cael sgwrs gyda chi am y driniaeth(au) ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Yn dilyn hyn, cewch eich tywys i ystafell ochr. Os ydych chi'n cael triniaeth colonosgopi, gofynnir ichi newid i mewn i gŵn ysbyty. Mae toiled ar gael yn yr ardal hon ac mewn sawl un o'r ystafelloedd ochr. Cyn eich endosgopi, bydd yr endosgopydd (y person sy'n cyflawni'r prawf) yn trafod y driniaeth gyda chi ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych cyn cwblhau'r ffurflen gydsynio.
Gofynnir i berthnasau/ffrindiau aros yn y dderbynfa er mwyn cynnal cyfrinachedd, preifatrwydd ac urddas cleifion eraill yn yr uned.
Bydd y nyrs sy'n gofalu amdanoch yn dod â chi drwodd i'r ystafell driniaeth ac yn eich cyflwyno i'r staff. Gofynnir i chi orwedd ar y gwely a chan ddibynnu ar y weithdrefn yr ydych yn ei chael, byddwch yn cael eich cysylltu ag offer i fonitro eich pwysedd gwaed, cyfradd curiad y galon a lefelau ocsigen. Bydd nyrs yn gofyn ychydig o gwestiynau ichi fel rhan o restr wirio diogelwch endosgopi arferol. Yna bydd yr endosgopydd yn rhoi'r tawelydd i chi, os gofynnwyd amdano, cyn dechrau'r driniaeth.
Mae'r amser a gymerir i berfformio triniaeth endosgopi yn amrywio yn dibynnu ar y math o brawf sy'n cael ei wneud, ac a oes angen unrhyw driniaeth. Mae'r rhan fwyaf o gleifion fel arfer yn yr ystafell driniaeth am oddeutu 15 i 40 munud.
Bydd yr endosgopydd naill ai'n cael sgwrs gyda chi am ganfyddiadau'r prawf cyn gadael yr ystafell driniaeth neu mewn rhai achosion ar ôl i chi gael amser i wella a chael diod yn yr ardal adfer.
Yn dilyn eich triniaeth, bydd y nyrs sy'n gofalu amdanoch yn mynd â chi i'r ardal adfer. Fel arfer, byddwch yn y rhan hon o'r uned endosgopi am oddeutu 15 i 60 munud yn dibynnu a ydych wedi derbyn meddyginiaeth dawelyddol ai peidio. Byddwch yn cael cynnig diod poeth neu oer a phecyn o fisgedi. Cyn gadael yr adran, bydd un o'r staff adfer yn cael sgwrs gyda chi am yr hyn a ddarganfuwyd yn ystod y driniaeth ac unrhyw gynlluniau dilynol, yn ogystal â chynnig copi o'ch adroddiad i chi. Bydd adroddiad hefyd yn cael ei bostio fel mater o drefn at eich meddyg teulu a'ch meddyg atgyfeirio (os yw'n wahanol i'ch meddyg teulu).