Darperir gofal i gleifion â chyflyrau Gastroenteroleg (cyflyrau gwddf, stumog, pancreas a choluddyn) a Hepatoleg (yr afu) yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau.
Mae ein gwasanaethau yn cynnwys:
- Gofal cleifion mewnol i gleifion ag Anhwylderau Gastroenteroleg, yr Afu a Maeth (Ward A7 yn Ysbyty Athrofaol Cymru a Ward Gorllewin 1 yn Ysbyty Athrofaol Llandochau).
- Clinigau cleifion allanol cyffredinol ac arbenigol i gleifion â chlefydau Gastroenteroleg a'r Afu, gan gynnwys Clefyd Llid y Coluddyn (IBD), Clefyd Seliag a Feirysau a Gludir yn y Gwaed.
- Gwasanaethau endosgopi i gleifion mewnol a chleifion allanol. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth ar alwad gwaedu gastroberfeddol y tu allan i oriau, a gynigir 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
- Asesiad a therapi cleifion mewnol a chleifion allanol ar gyfer problemau maethol fel rhan o'r tîm cymorth maeth.
Cliciwch ar y dolenni perthnasol isod i gael gwybodaeth fanylach am bob un o'r gwasanaethau hyn.