Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin Ffisiotherapi Iechyd Menywod

Gall y gwasanaeth Ffisiotherapi Iechyd Menywod gynnig amrywiaeth o daflenni cleifion a fideos addysg i chi.

FAQ

Cynhelir sesiynau gwybodaeth grŵp a thriniaethau 1:1 (heblaw y nodir fel arall) yn yr adran Ffisiotherapi Cleifion Allanol naill ai yn Ysbyty Athrofaol Llandochau (YALl) neu Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC).   

Sylwch: Nid yw pob triniaeth ar gael ar draws y ddau safle - siaradwch â'ch Ffisiotherapydd i gael gwybod rhagor. 

Cynhelir y dosbarth ymarfer Cyn-geni yn yr Adran Ffisiotherapi yn YAC.

  • Rhestr o feddyginiaeth
  • Sampl wrin os gofynnwyd am un yn flaenorol
  • Dillad cyfforddus llac os ydych yn disgwyl gwneud unrhyw ymarfer corff
  • Nodiadau mamolaeth os gofynnwyd amdanynt

Am mai ysbytai athrofaol yw'r ddau safle, efallai byddwch yn cael eich gweld gan Ffisiotherapydd dan hyfforddiant, o dan oruchwyliaeth agos Ffisiotherapydd cymwysedig. Mae gennych yr hawl i ofyn am beidio â chynnwys myfyriwr yn eich asesiad neu'ch triniaeth.

Bydd hyn yn amrywio gan ddibynnu ar natur eich problem a'r math o asesiad neu driniaeth a gynigir i chi - dylech glywed gan yr adran cyn pen mis. Cysylltwch â'r adran i gael gwybod rhagor.

Mae'r ymarfer cyn-geni yn cynnwys ymarferion sefyll ac ymarferion ar fatiau ar y llawr. Os nad ydych yn gallu cerdded heb gymorth neu godi o'r llawr neu ostwng i'r llawr, siaradwch â'ch Ffisiotherapydd. 

Ar hyn o bryd, nid oes dynion o gwbl yn gweithio yn y tîm Ffisiotherapi Iechyd Menywod ond gallai hyn newid, ac felly os ydych yn teimlo'n gryf am hyn, siaradwch â'ch Ffisiotherapydd.

Bydd hyn yn amrywio'n fawr gan ddibynnu ar natur eich problem, ers pryd y mae symptomau gennych, sut byddwch yn ymateb i'r driniaeth, eich nodau ac ati, a bydd yn cael ei benderfynu rhyngoch chi a'ch Ffisiotherapydd.

Eto mae hyn yn benodol i'r unigolyn ac mae'n dibynnu ar natur eich problem.

Mae croeso ichi ddod â hebryngwr i unrhyw un o'ch sesiynau asesu neu drin. 

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni