Mae Peirianneg Glinigol yn darparu ystod lawn o wasanaethau rheoli offer meddygol, ac yn sicrhau pryd bynnag y defnyddir dyfais feddygol, ei bod yn addas at y diben a fwriadwyd ac yn cael ei chynnal mewn cyflwr diogel a dibynadwy.
Wedi'i leoli yn Field Way, darperir gwasanaeth offer meddygol cylch bywyd cyfan i BIP Caerdydd a'r Fro, gan gynnwys cyngor ar addasrwydd technegol a diogelwch offer newydd, comisiynu offer newydd, atgyweirio, cynnal a chadw a gwirio offer, a chymorth technegol ar gyfer uwchraddio neu addasiadau diogelwch.
Wedi'i leoli yn Field Way, mae DTS yn darparu rheolaeth offer ar gyfer haemo-dialysis, dialysis peritoneol cylchredol parhaus (CAPD) a dialysis peritoneol cylchol parhaus (CCPD), gan gefnogi cleifion yn yr ysbyty, unedau lloeren ac amgylchedd y cartref.
Wedi'i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Heath Park, mae MES yn darparu rheolaeth offer yn bennaf ar gyfer offer meddygol math mecanyddol ledled BIP Caerdydd a'r Fro, gyda gwaith cynnal a chadw ac atgyweiriadau cynlluniedig rheolaidd.
Darperir ystod o raglenni hyfforddi ar gyfer staff clinigol ar ddefnyddio pympiau Trwytho yn ddiogel. Cynhelir y gweithdai yn Field Way, ond gellir cynnal hyfforddiant hefyd ar safleoedd eraill BIP Caerdydd a'r Fro.
Mae'r Gwasanaeth Benthyca Offer Meddygol, sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Heath Park, ac Ysbyty Llandochau, yn darparu gwasanaeth ar gyfer ystod o offer meddygol a ddefnyddir yn gyffredin, dyfeisiau trwytho a nebiwlyddion yn bennaf.
Mae'r Adran Peirianneg Glinigol yn gweithredu system rheoli ansawdd sydd wedi'i hachredu i BS EN ISO 9001: 2008, rhif cofrestru FS13077.