Amcangyfrifir bod gan tua 5,000 o bobl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ddementia. Mae'n effeithio ar ofalwyr ac anwyliaid yn ogystal â'r bobl sydd â dementia eu hunain.
I fynd i'r afael â hyn, daeth cydweithrediad rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg, y trydydd sector a defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, at ei gilydd i greu Strategaeth Ddementia, yn dilyn ymlaen o weithdy a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2017.