Bydd y pecyn cymorth newydd 'Darllenwch amdanaf i', sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn sicrhau dilyniant gofal i bobl sydd â dementia neu nam gwybyddol drwy gydol eu taith.
Crëwyd y pecyn cymorth arloesol hwn gan ein Hyrwyddwyr Dementia yn y bwrdd iechyd. Mae'n rhwydd iawn i ofalwyr ei gwblhau ac i staff ei ddefnyddio, a bydd yn caniatáu i staff ddeall eu cleifion a darparu gofal o safon well.
Gall yr unigolyn fynd â 'Darllenwch amdanaf i' gydag ef i bobman ar ei daith, gan gynnwys arhosiad yn yr ysbyty neu wrth fynd i ganolfannau clinigol neu gymdeithasol/cymorth cymunedol. Bydd hyn yn galluogi pob aelod o staff y mae'n dod i gysylltiad ag ef i ddeall y claf, ac ni fydd rhaid i gleifion a'u hanwyliaid orfod ailadrodd eu stori bersonol drwy'r amser.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch Nyrs Datblygu Ymarfer neu'ch Hyrwyddwr Dementia lleol.
Edrychwch ar yr adran Dementia/Nam Gwybyddol (trwy gyfrifiadur mewnol y GIG yn unig) ar y dudalen Iechyd y Cyhoedd o'r Fewnrwyd yma