Deliriwm yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio cyflwr dryslyd acíwt a nodweddir gan aflonyddwch mewn ymwybyddiaeth a newid mewn gwybyddiaeth, ac mae ei hynt yn gyfnewidiol. Yn gyffredinol, mae'n datblygu dros 1-2 ddiwrnod ac fe all fod yn bresennol ar yr adeg pan fydd unigolyn yn cael ei dderbyn i'r ysbyty. Fe all hefyd ddatblygu unrhyw bryd tra bydd unigolyn yn aros yn yr ysbyty.
Mae pob claf mewnol mewn ysbyty mewn perygl o ddatblygu deliriwm. Ond, y rhai sydd yn y perygl mwyaf yw cleifion oedrannus, cleifion sydd eisoes â nam gwybyddol, cleifion sydd wedi torri clun a chleifion sydd â salwch difrifol, gan gynnwys cleifion Uned Therapi Dwys (ITU).
Nid deliriwm yw dementia. Ond, fe all fod yn anodd gwahaniaethu rhwng y ddau ar yr adeg derbyn. Mewn sefyllfa o'r fath, dylai'r unigolyn gael ei reoli fel petai ganddo ddeliriwm.
Mae deliriwm yn gysylltiedig â chanlyniadau gwael. Mae pobl sy'n datblygu deliriwm yn tueddu i:
Mae'n bwysig adnabod a thrin deliriwm yn gynnar. Ar yr adeg derbyn, dylai pob claf gael ei asesu am bresenoldeb deliriwm. Dylai hyn ystyried y bobl hynny sydd mewn perygl uwch h.y. pobl dros 65 oed, cleifion sydd eisoes â dementia, cleifion sydd wedi torri clun a chleifion sydd â salwch difrifol.
Mae'r ffordd o reoli deliriwm yn dibynnu ar yr hyn sy'n ei achosi. Gall staff ddilyn y llwybr a'r rhestr wirio yma i reoli cleifion yn briodol.