"Unrhyw ymddygiad, gan gynnwys difaterwch, sy'n achosi gofid emosiynol yn y gofalwr neu mewn pobl eraill yn yr amgylchedd."
Mackenzie a James (2011)
Deëllir bod mathau o ymddygiad sy'n herio mewn gofal dementia yn fodd o gyfathrebu neu fynegi angen nad yw'r unigolyn sy'n byw gyda dementia yn gallu ei gyfleu'n glir ac nad yw darparwyr gofal yn gallu ei adnabod yn syth, o bosibl.
Mae nifer o ffactorau'n achosi ymddygiadau sy'n herio ac fe allent fod yn gysylltiedig â chredoau, dryswch o ran amser, lle ac unigolyn; materion cysylltiedig â chyffuriau; statws iechyd meddwl; statws iechyd corfforol; diffygion canfyddiadol a synhwyraidd; personoliaeth cyn salwch; statws gwybyddol a niwrolegol; statws metabolig. Yn ogystal, gallai ffactorau yn yr amgylchedd ffisegol a rhyngbersonol sbarduno ymddygiadau sy'n herio.
Mae'n bosibl y bydd angen i ymddygiadau sy'n herio gael eu hatgyfeirio i dîm gofal dementia arbenigol, ond mae yna ddulliau o ddarparu gofal y gall gwasanaethau a darparwyr gofal nad ydynt yn arbenigol eu defnyddio i wneud gwahaniaeth.
Mae'r model canlynol yn addasiad o Fodel Nottingham, Deall Ymddygiad mewn Dementia sy'n Herio:
James, A. (2011) Understanding Behaviour in Dementia that Challenges A Guide to Assessment and Treatment. Llundain: Jessica Kingsley.
Gwybodaeth i weithwyr dementia proffesiynol gan y Gymdeithas Alzheimer's