Mae dementia yn flaenoriaeth iechyd y cyhoedd fawr a hefyd yn faes allweddol ar gyfer datblygu polisi cenedlaethol. Mae amcanestyniadau ar gyfer y dyfodol yn dangos y bydd y niferoedd yn cynyddu ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.
Amcangyfrifir y byddant yn cynyddu 53% rhwng 2014 a 2030. Datblygwyd y Cynllun Dementia 3 Blynedd i ymateb i'r pryder cynyddol hwn. Mae'r cynllun ar gyfer pobl sydd â dementia a'u gofalwyr. Y nod yw eu helpu i fyw'n dda gyda dementia. Mae'n ychwanegu at ddogfennau strategol cenedlaethol blaenorol, gan gynnwys:
• Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia
• Gweledigaeth Genedlaethol ar Ddementia
• Canllaw Sut i Wella Dementia
• ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ (y strategaeth iechyd meddwl genedlaethol).
Datblygwyd y cynllun ar y cyd rhwng:
• Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
• Cyngor Dinas Caerdydd
• Cyngor Bro Morgannwg
• Partneriaid o'r trydydd sector (gan gynnwys cynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr).
Bydd yn mynd i'r afael ag anghenion pobl sydd â dementia a'u gofalwyr yn ystod y tair blynedd nesaf, yn ogystal â gwasanaethu twf y boblogaeth yn y dyfodol. Mae angen ymateb amlasiantaethol i gyflawni hyn.
Rhannwyd y cynllun yn 4 prif thema:
I gynorthwyo pobl sydd â dementia a'u gofalwyr, mae angen i'r amgylchedd maen nhw'n byw ynddo fod yn gynhwysol ac yn ymwybodol o ddementia.
Mae'n hollbwysig bod diagnosis o bobl sydd â dementia yn cael ei wneud mewn modd amserol. Mae hyn yn sicrhau bod triniaeth a chymorth yn cael eu rhoi ar gam cynharach o'r salwch.
Mae'n bwysig sicrhau bod gan y cyhoedd ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia.
Ar ôl cael diagnosis o ddementia, mae'n bwysig bod gwybodaeth o ansawdd da ar gael i'r unigolyn sydd â dementia a'i ofalwyr. Bydd hyn yn ei alluogi i ddeall y diagnosis a dod i delerau ag ef, a gallu cael cymorth yn rhwydd.