Neidio i'r prif gynnwy

Atal Dementia

Dementia - lleihau’r risg

Oeddech chi’n gwybod?

  • Nid yw mynd yn hŷn yn golygu y byddwch yn cael dementia.
  • Ni fyddwch o reidrwydd yn cael dementia oherwydd bod aelod o’r teulu wedi’i gael.
  • Gallwch gymryd camau i leihau’ch risg o ddatblygu dementia.
  • Nid yw byth yn rhy gynnar nac yn rhy hwyr i gymryd y camau hynny.

Er bod rhai ffactorau risg nad oes modd eu newid, y newyddion da yw bod ymchwil yn dangos ei bod yn bosibl lleihau eich tebygolrwydd o ddatblygu dementia. Mae hyn yn golygu gwneud rhai newidiadau i helpu i gadw’ch corff yn iach ac atal niwed i’ch ymennydd. Gall hyn fod yn ddefnyddiol i bobl o bob oedran.

Rhai o'r newidiadau allweddol i'ch ffordd o fyw a all helpu i leihau'ch risg o ddatblygu dementia yw:

  • Gofalwch am eich cly
  • Rhowch y gorau i ysmygu
  • Gofalwch am eich iechyd meddwl
  • Cadwch mewn cysylltiad ag eraill ac ymgysylltu eich ymennydd
  • Diogelwch eich pen
  • Cadwch olwg ar eich pwysedd gwaed
  • Symud mwy ac yn fwy aml
  • Lleihewch eich risg o gael diabetes math 2
  • Cyfyngwch yr alcohol yr ydych yn ei yfed
  • Cadwch bwysau iach
  • Gallach am eich llygaid

Am fwy o wybodaeth ac i gael gwybod am wasanaethau lleol a all eich cefnogi i wneud y newidiadau hyn i'ch ffordd o fyw, darllenwch y canllaw llawn yma.

Mae copïau caled o’r canllaw ar gael mewn Hybiau a Llyfrgelloedd, Meddygfeydd Teulu, canolfannau gwybodaeth ysbytai a lleoliadau cymunedol eraill ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.

Dilynwch ni