Neidio i'r prif gynnwy

Dementia

Amcangyfrifir bod tua 850,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig yn byw gyda dementia, sy'n gallu effeithio ar ddynion a menywod.

Nid yw dementia'n rhan naturiol o heneiddio ac nid yw'n gyflwr sy'n effeithio ar bobl hŷn yn unig, er bod cysylltiadau cryf rhwng henaint a diagnosis o ddementia.

Mae pobl dros 65 oed yn y perygl mwyaf o ddatblygu'r clefyd; ar hyn o bryd, mae un o bob 14 o bobl yn yr ystod oedran hon yn byw gyda dementia, ond mae dros 40,000 o bobl iau na 65 oed yn y Deyrnas Unedig yn byw gyda dementia.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni