Offeryn cyfleu poen yw Show Me Where, er mwyn i bobl ag anabledd lleferydd neu bobl sy'n methu siarad Saesneg gyfleu safle poen neu anghysur i ofalwyr.
Mae'n ddefnyddiol i bobl â:
- Strôc
- Awtistiaeth (ASD)
- Dementia cyfnod cynnar
- Anableddau sy'n effeithio ar leferydd E.e. Parlys yr Ymennydd, Sglerosis Ymledol
- Byddardod a phroblemau clyw
- Cleifion wedi'u mewndiwbio neu wedi cael traceostomi
Mae hefyd yn ddefnyddiol i:
- Bobl sy'n dioddef o drawma neu orbryder
- Plant ac oedolion sy'n agored i niwed
- Pobl nad ydynt yn siarad Saesneg
Defnyddiwch ‘Show me where’ yn rheolaidd er mwyn ei wneud yn rhan o drefn gyfarwydd a rhagfynegadwy, gan sicrhau y ceir gwybod am boen yn gynnar cyn i symptomau gynyddu, gan leihau straen a gorbryder a helpu i sicrhau archwiliad buan.
Mewn amgylchedd clinigol, gall ymwelwyr ddefnyddio'r offeryn i ofyn sut hwyl sydd ar glaf, a rhoi gwybod i staff meddygol os oes angen. Gall clinigwyr hefyd ddefnyddio'r offeryn i egluro pa le yr hoffent ei archwilio a chael caniatâd.
Fe'i defnyddir mewn amrywiaeth o safleoedd:
- Ysgolion
- Meddygfeydd teulu
- Clinigau deintyddol
- Ysbytai
- Cartrefi Gofal
- Unedau Gofal Dwys
- yr Heddlu
- Lluoedd Arfog EM
- Gwasanaethau Cymdeithasol (Amddiffyn Plant)
- Ambiwlans ac Argyfwng
- Amgylcheddau hosbis.