Os ydych wedi cael eich atgyfeirio at y Clinig Diagnosis Cyflym (RDC), mae hyn oherwydd bod eich meddyg teulu yn amheus ynghylch eich symptomau 'amwys' ond pryderus.
Gallai eich symptomau, fel colli pwysau heb esboniad, neu gyfog, gael eu hachosi gan nifer o gyflyrau, ond gallent hefyd fod o ganlyniad i ganser.
Mae'r RDC wedi'i gynllunio i roi asesiad manwl a phersonol i chi a mynediad cyflym at brofion diagnostig i gyrraedd diagnosis yn gyflym, fel bod gennych chi esboniad am eich symptomau ac yn deall y camau nesaf i'w cymryd, neu gallwch fod yn dawel eich meddwl fod canlyniadau eich profion yn normal.
Mae'r dudalen we hon yma i'ch helpu ar bob cam o'r broses o'ch atgyfeiriad gan feddyg teulu, hyd at eich apwyntiad, a'r hyn y gallwch ei ddisgwyl.
Mae'r fideo canlynol hefyd yn esbonio mwy am y Clinig Diagnosis Cyflym a'r hyn y gallwch ei ddisgwyl o'ch apwyntiad.
Os ydych chi wedi mynd at eich meddyg teulu ac yn ansicr beth allai fod yn achosi eich symptomau ond yn bryderus y gallent gael eu hachosi gan ganser, efallai y cewch eich atgyfeirio at y Clinig Diagnosis Cyflym.
Gan fod eich symptomau’n amwys, gall atgyfeiriad at y Clinig Diagnosis Cyflym eich helpu i gael eich gweld yn gyflym a’n galluogi i ymchwilio’n llawn i’ch symptomau a nodi beth sy’n eu hachosi. Mae tystiolaeth gref bod diagnosis cynnar yn rhoi’r siawns orau o driniaeth lwyddiannus mewn llawer o afiechydon difrifol, gan gynnwys canser, felly mae’n bwysig ein bod yn ymchwilio cyn gynted â phosibl.
Mae'n bwysig nodi na fydd gan fwyafrif y cleifion sy'n mynychu'r Clinig Diagnosis Cyflym ganser, a gallai eu symptomau gael eu hachosi gan gyflwr arall neu efallai y bydd canlyniadau eich prawf yn normal.
Cyn eich apwyntiad gyda ni, bydd eich meddyg teulu yn trefnu i chi gael profion gwaed.
Bydd tîm y Clinig Diagnosis Cyflym yn cysylltu â chi dros y ffôn i drefnu apwyntiad gyda chi. Bydd y rhif hwn yn un anhysbys, a byddwn yn eich gwahodd i'r clinig ar fyr rybudd.
Mae hwn yn gyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau a cheisio eglurder ar unrhyw beth yr hoffech ei drafod.
Yna byddwch yn cael eich gwahodd i apwyntiad ar gyfer sgan CT. Bydd eich llythyr apwyntiad yn esbonio popeth y bydd angen i chi ei wneud i baratoi ar gyfer eich sgan a bydd yr holl gyfarwyddiadau ynghylch meddyginiaeth yn cael eu rhoi dros y ffôn.
Cyn eich apwyntiad gyda ni, bydd eich meddyg teulu yn trefnu i chi gael profion gwaed.
Bydd tîm y Clinig Diagnosis Cyflym yn cysylltu â chi dros y ffôn i drefnu apwyntiad gyda chi. Bydd y rhif hwn yn un anhysbys, a byddwn yn eich gwahodd i'r clinig ar fyr rybudd.
Mae hwn yn gyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau a cheisio eglurder ar unrhyw beth yr hoffech ei drafod.
Yna byddwch yn cael eich gwahodd i apwyntiad ar gyfer sgan CT. Bydd eich llythyr apwyntiad yn esbonio popeth y bydd angen i chi ei wneud i baratoi ar gyfer eich sgan a bydd yr holl gyfarwyddiadau ynghylch meddyginiaeth yn cael eu rhoi dros y ffôn.
Ar ôl i chi gael eich profion gwaed a sgan CT, byddwch yn cael eich gwahodd i apwyntiad i gael eich gweld yn y Clinig Diagnosis Cyflym. Byddem yn eich annog i ddod ag aelod o'ch teulu neu ffrind gyda chi i'ch apwyntiad i gael cymorth.
Pan fyddwch yn gweld clinigwr y Clinig Diagnosis Cyflym am y tro cyntaf, bydd yn gofyn am eich hanes meddygol ac yn eich archwilio. Rydym yn eich cynghori i wisgo dillad llac a chyfforddus y gellir eu tynnu'n hawdd.
Ar ôl i chi adael y clinig, bydd y gweithwyr proffesiynol allweddol sy'n ymwneud â'ch gofal yn cyfarfod â'i gilydd i adolygu canlyniadau eich profion i drafod beth sy'n digwydd nesaf.
Bydd y nyrs wedyn yn trefnu i’ch ffonio yn hwyrach yn y dydd i fynd drwy’ch cynllun rheoli – a all gynnwys atgyfeiriad i adran arall, neu yn ôl at eich meddyg teulu am brofion pellach.
Yn fuan ar ôl eich apwyntiad clinig, bydd eich meddyg teulu yn derbyn llythyr yn esbonio canlyniadau eich prawf a’r diagnosis.
Mae'r Clinigau Diagnosis Cyflym yn cael eu cynnal ar foreau Llun a Iau yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Cynhelir y sesiynau hyn yn Ystafell 17 yr Adran Cleifion Allanol.
I gyrraedd yr Adran Cleifion Allanol, ewch i'r ysbyty drwy'r prif gyntedd. Cymerwch y grisiau neu'r lifft o'ch blaen i'r llawr cyntaf. Bydd y coridor cleifion allanol ar y chwith.
Mae Ystafell 17 ar ddiwedd y coridor hwn ar yr ochr dde.
Os ydych chi'n cyrraedd yr ysbyty mewn car, defnyddiwch y mannau parcio sydd ar gael i gleifion ac ymwelwyr.
Mae’r meysydd parcio hyn wedi’u nodi’n glir gan yr arwyddion glas. Mae parcio am ddim am 4 awr. Gall cleifion ac ymwelwyr ychwanegu dwy awr i’w hamser parcio drwy roi manylion cofrestru eu cerbyd yn un o’r peiriannau parcio sgrin gyffwrdd. Mae’r peiriannau parcio wedi’u lleoli yn ardal derbynfa’r ysbyty ac o fewn llawer o adrannau
Os ydych chi'n cyrraedd ar fws neu dacsi, mae'r man gollwng y tu allan i'r brif fynedfa a gallwch ddilyn y cyfarwyddiadau uchod i'r clinig.
Byddem yn eich annog i ddefnyddio ein gwasanaeth Parcio a Theithio sydd am ddim i staff, cleifion ac ymwelwyr ag Ysbyty Athrofaol Cymru.
Mae’r bws yn rhedeg o Bentwyn, oddi ar yr A48(M). Mae’r gwasanaeth yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Gwener, gyda bysiau bob 20 munud ac mae amser y daith i Ysbyty Athrofaol Cymru tua 6 munud.
Mae'r fideo canlynol yn dangos i chi ble i fynd a beth i'w ddisgwyl pan fyddwch yn cyrraedd yr ysbyty.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich apwyntiad, ar ôl eich clinig neu os nad ydych wedi clywed gennym o fewn 7 diwrnod i gael eich atgyfeirio gan eich meddyg teulu, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod:
Rhif ffôn: (029) 21840442