Mae Rhagsefydlu yn disgrifio’r camau y gallwch chi a ninnau eu cymryd gyda’n gilydd i wella eich lles corfforol a meddyliol cyn eich llawdriniaeth, gyda’r nod o wella eich adferiad yn dilyn y llawdriniaeth.
Nod Rhagsefydlu yw:
- eich cadw mor ddiogel â phosibl trwy gydol eich arhosiad
- lleihau'r risg o gymhlethdodau
- lleihau faint o amser a dreuliwch yn gwella yn ystod eich arhosiad yn yr ysbyty ac ar ôl i chi gyrraedd adref.
Mae gennym dîm o therapyddion rhagsefydlu arbenigol sy'n ymwneud â pharatoi cleifion sy'n cael llawdriniaeth fawr ar gyfer canser - rydym yn ceisio cynnwys y tîm hwn gyda'r cleifion hyn cyn gynted â phosibl, efallai y byddwch yn cael yr apwyntiadau hyn cyn i chi ddod i POAC.
Lleolir y tîm Rhagsefydlu yn Adeilad Glan-y-Llyn ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru
- Ar hyn o bryd mae hyn ar gyfer cleifion â chanser, ond mae'r egwyddorion yn berthnasol i bob claf, ac mae'r wybodaeth, y dolenni a'r cyngor ar hyn a thudalennau cysylltiedig yn berthnasol i bawb sy'n cael llawdriniaeth. Mae yna lawer o adnoddau rhagorol isod.
- Gallai Rhagsefydlu gynnwys
- Gweld deietegydd
- Gweld ffisiotherapydd ar gyfer ymarferion ac ymarferion anadlu
- Cynyddu eich gweithgarwch corfforol
Cadw’n Ffit a Gwella’n Gynt