Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am eich Anesthetig

Bydd y rhan fwyaf o lawdriniaethau yn cynnwys anesthetig, bydd y math a gynigir neu sy'n ofynnol yn dibynnu ar y llawdriniaeth a'ch iechyd. 

  • Os byddwch yn cwrdd ag anesthetydd yn ystod eich ymweliadau POAC, byddant yn trafod y mathau o anesthetig rydych yn debygol o gael.
  • Os na fyddwch yn cwrdd â'ch anesthetydd adeg eich ymweliad POAC, byddwch yn cwrdd â'ch anesthetydd cyn eich llawdriniaeth, fel arfer ar fore eich llawdriniaeth, ond efallai y bydd yn gynharach os cewch eich derbyn cyn diwrnod y llawdriniaeth.  Bydd yn trafod gyda chi yr opsiynau penodol a mwyaf diogel sydd ar gael i chi ar y pwynt hwn.

Os nad ydych wedi cael anesthetig o'r blaen, gall fod yn frawychus.  Byddwch yn derbyn gofal gan dîm anesthetig profiadol, sy'n cael ei arwain gan Feddyg Ymgynghorol Anesthetig, yn aml ochr yn ochr ag anesthetyddion dan hyfforddiant, ac Ymarferydd yr Adran Llawdriniaeth, byddant gyda chi drwy gydol eich llawdriniaeth i sicrhau eich bod yn gyfforddus ac yn ddiogel.  Efallai y byddant hefyd yn ymwneud â'ch gofal ar ôl eich llawdriniaeth a'ch anesthetig.


Beth yw 'anesthetig'?

Mae'r gair anesthesia yn golygu “colli teimlad”.

  • Gall hyn olygu pigiad anesthetig lleol syml sy'n gwneud i ran fach o'r corff fynd yn ddideimlad, fel bys neu o amgylch dant.
  • Gall gynnwys anesthetig rhanbarthol lle gellir defnyddio pigiadau anesthetig lleol i wneud i aelod cyfan fynd yn ddideimlad neu ran ohono
  • Mae anesthetig asgwrn cefn neu anesthetig epidural yn bigiad i'r cefn a all wneud i’r coesau a’r abdomen fynd yn ddideimlad neu i leddfu poen ar ôl llawdriniaethau
  • Mae Anesthesia Cyffredinol yn golygu derbyn meddyginiaethau i achosi anymwybyddiaeth dros dro.  Mae'r meddyginiaethau hyn hefyd yn effeithio ar weithrediad y galon, yr ysgyfaint a'r cylchrediad. O ganlyniad, dim ond meddygon hyfforddedig iawn sy’n gallu rhoi anesthesia cyffredinol - “anesthetyddion”.
  • Yn dibynnu ar y math o lawdriniaeth a'ch iechyd, efallai y bydd gennych fwy nag un o'r opsiynau anesthetig ar gyfer eich llawdriniaeth.

Mae Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion wedi cynhyrchu taflenni ardderchog am y gwahanol fathau o anesthesia.  Mae'r rhain wedi'u cysylltu isod;

Royal College of Anaesthetists - Anaesthesia Explained

Royal College of Anaesthetists - Types of anaesthetic

Royal College of Anaesthetists - Leaflets

 

Mae'r dudalen nesaf yn Diwrnod y Llawdriniaeth.

Defnyddiwch y dolenni isod i lywio o amgylch safle POAC.

Dilynwch ni