Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod y Llawdriniaeth

Mae'n bosibl y cewch eich derbyn ar fore'ch llawdriniaeth, neu'r diwrnod/noson cyn hynny.  Mae’n bosibl y bydd rhai llawdriniaethau, a chleifion yn addas ar gyfer yr hyn a alwn yn ‘llawdriniaeth achos dydd’, sef pan fyddwch yn mynd i’r ysbyty ar ddiwrnod eich llawdriniaeth, ac rydym yn disgwyl y byddwch yn gallu gadael yr ysbyty ar yr un diwrnod, gyda chymorth priodol, meddyginiaeth lleddfu poen a manylion cyswllt ar gyfer cymorth pe bai angen.

Os ydych chi'n teimlo'n sâl cyn cael eich derbyn i'r ysbyty, weithiau mae'n fwy diogel gohirio llawdriniaethau wedi'u cynllunio neu lawdriniaethau dewisol, am gyngor cysylltwch â POAC ar Ffôn: 029 2074 4775 (YAC) neu Ffôn: 029 2071 6163 / 029 2071 6581, neu fel arall, cysylltwch â'r ward yr ydych i fod i gael eich derbyn iddi (bydd y wybodaeth hon ar eich llythyr derbyn).


Cyngor ar Ymprydio / Newynu
 

Mae'n arferol cael cyfnod o ymprydio cyn llawdriniaeth, mae hyn wedi'i gynllunio i wneud eich gofal yn fwy diogel.  Mae’n bosibl bod cleifion wedi profi amseroedd ymprydio gwahanol mewn ysbytai eraill, neu ar gyfer llawdriniaethau blaenorol, mae gwahanol lawdriniaethau ac anaestheteg yn amrywio o ran eu hamseroedd ymprydio, fodd bynnag mae symudiad tuag at leihau amseroedd newynu gymaint ag sy’n ddiogel i wella eich profiad (gan gynnal diogelwch ar yr un pryd).

Newynu; Yn gyffredinol, oni bai eich bod yn cael cyngor fel arall, ni ddylech fwyta am chwe awr cyn eich llawdriniaeth/anaesthetig - yn ymarferol, i'r mwyafrif mae hyn yn golygu:

🕛  Dim i'w fwyta ar ôl 2AM ar ddiwrnod eich llawdriniaeth.
🥛   Rydych chi'n gallu yfed dŵr (dim ond dŵr) tan ddwy awr cyn eich llawdriniaeth - i'r mwyafrif mae hyn tan 6AM ar ddiwrnod eich llawdriniaeth.

Pan fyddwch chi'n cael eich derbyn i'r ysbyty, gofynnwch i'r nyrsys, y llawfeddygon a'r anesthetyddion y byddwch chi'n cwrdd â nhw a allwch chi gael llymeidiau o ddŵr - "ThinkDrink".

💊 Rydych chi'n gallu llymeidiau o ddŵr i allu cymryd eich meddyginiaethau arferol ar ddiwrnod / bore eich llawdriniaeth (am gyngor manwl ar feddyginiaethau cliciwch yma). 
 

Y dudalen nesaf yw Gwella - Ar ôl eich Llawdriniaeth
Defnyddiwch y dolenni isod i lywio o amgylch safle POAC

Dilynwch ni