Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor a gwybodaeth i gleifion â diabetes

Gall diabetes fod yn rhan o'r achos dros risgiau cynyddol i gleifion sy'n cael llawdriniaeth.  O'i gymharu â chleifion heb ddiabetes, mae nifer y cleifion sy'n datblygu haint sy’n gysylltiedig â’u llawdriniaeth yn uwch, ac mae faint o amser y mae cleifion yn aros yn yr ysbyty yn hirach, mewn cleifion â diabetes o'i gymharu â'r rhai hebddo.  Mae sicrhau bod eich diabetes yn cael ei reoli cystal ag y gall fod, yn un ffordd o leihau'r risgiau hyn (ac eraill).

Ar ôl eich llawdriniaeth, byddwn yn ceisio eich hwyluso a’ch helpu i fwyta ac yfed cyn gynted â phosibl.

Cyn eich llawdriniaeth

HbA1c

  • Mae HbA1c yn brawf gwaed sy'n mesur y siwgr gwaed cyfartalog yn eich corff dros y 2-3 mis blaenorol.
  • Mae'n fesur defnyddiol o 'reolaeth' diabetig ac yn aml caiff ei wneud bob blwyddyn gan y tîm sy'n rheoli'ch diabetes (Meddygon Teulu / Tîm Cymunedol/Arbenigwyr Diabetig).
  • Mae tystiolaeth bod cleifion sydd â HbA1c sy’n is na 69mmol/mol yn gwella'n well, yn aros yn yr ysbyty am gyfnodau byrrach, ac â llai o siawns o gymhlethdod sylweddol.
  • Am y rheswm hwn, ein nod yw bod gan gleifion â diabetes HbA1c diweddar (llai na 6 mis oed) o lai na 69mmol / mol
  • Os nad ydych wedi cael prawf HbA1c a gyflawnwyd yn ystod y 6 mis diwethaf, gall fod yn ddefnyddiol os ydych yn gofyn i'r tîm sy'n rheoli eich diabetes am un pan fyddwch yn cael gwybod y gallai fod angen llawdriniaeth arnoch.  Os na chaiff ei gyflawni, byddwn yn ei ailadrodd yn eich apwyntiad POAC.
  • O bryd i'w gilydd mae sefyllfaoedd mwy brys yn golygu y gallwch gael llawdriniaeth gyda lefelau HbA1c uwch.

Meddyginiaethau

  • Gweler y dudalen meddyginiaethau am wybodaeth fanwl. Ein nod yw cynnal eich trefn diabetig arferol trwy eich arhosiad yn yr ysbyty, fodd bynnag, efallai y bydd angen newidiadau i ddosau ar rai meddyginiaethau, er enghraifft efallai y bydd angen newidiadau i ddosau Insulin a Flozin, neu efallai bydd angen eu cadw'n ôl yn llwyr.
  • Meddyginiaethau Diabetig drwy’r Geg: Efallai y bydd angen atal rhai mathau o gyffuriau cyn eich llawdriniaeth - er enghraifft Flozins (cyffuriau dosbarth ataliol 2 SGLT2i- Sodiwm Glwcos Cotransporter 2 ) fel Dapagliflozin, Empagliflozin neu Canagliflozen.  Yn gyffredinol, caiff y rhain eu hatal y diwrnod cyn eich llawdriniaeth, (felly peidiwch â chymryd unrhyw beth ar ddiwrnod y llawdriniaeth, na'r diwrnod cynt) ac ni fyddant yn cael eu hailgychwyn nes eich bod yn bwyta ac yn yfed wedyn. (Mae hyn yn helpu i atal cymhlethdod o'r enw Euglycaemic Ketoacidosis).
  • Inswlin: Bydd angen addasu dosau ar ddiwrnod y llawdriniaeth, a’r noson cyn hynny yn dibynnu ar y drefn rydych chi'n ei dilyn.  Yn gyffredinol, bydd o leiaf ychydig o'ch inswlin tymor hwy yn parhau a byddwn yn egluro hyn i chi.
  • Bydd y Nyrs POAC neu'r Fferyllydd yn esbonio pa addasiadau y dylech eu gwneud cyn eich llawdriniaeth pan fyddwch yn cael eich gweld mewn clinig - gweler ein tudalen Meddyginiaethau
  • Os nad oes gennych gynllun clir ar gyfer sut i reoli eich meddyginiaethau diabetig yn ystod y cyfnod yn arwain at eich llawdriniaeth, cysylltwch â'r POAC perthnasol (YAC 029 2074 4775 neu YALl  029 21826163)

Yn ystod eich derbyniad

  • Lle bo'n bosibl, cewch eich gosod yn gyntaf, neu tua dechrau'r rhestr llawdriniaeth (bore / prynhawn) - mae hyn er mwyn lleihau amseroedd ymprydio a'u heffaith ar eich trefn meddyginiaeth diabetig.
  • Yn ystod eich derbyniad, eich llawdriniaeth ac adferiad, gall lefelau siwgr eich gwaed newid, ac efallai y bydd angen i chi newid dosau eich meddyginiaethau cyfredol neu feddyginiaethau eraill y byddwch yn dechrau arnynt
  • Caiff hyn ei waethygu gan y 'straen' y mae eich corff yn ei brofi yn ystod ac ar ôl y llawdriniaeth
  • Gall ymprydio ymlaen llaw, ac oedi wrth ailddechrau deiet arferol drwy’r geg wedi hynny, ei gwneud yn fwy heriol rheoli eich diabetes/siwgr gwaed, ac yn aml bydd angen monitro a rheoli'ch diabetes yn agosach drwy'r cyfnod hwn, gall hyn fod yn drwythiad inswlin parhaus
  • Efallai y bydd rhai llawdriniaethau (fel llawdriniaeth y pen a’r gwddf) yn golygu na fyddwch yn gallu bwyta nac yfed am ychydig ddyddiau ar ôl y llawdriniaeth, ac efallai y bydd angen i ni ddechrau trwythiad inswlin am y cyfnod hwn i reoli eich siwgr gwaed.

Targedau Siwgr Gwaed

  • Byddwn yn monitro'r rhain yn agos lle bo angen, ac yn anelu at gadw eich siwgr gwaed o dan 12mmol/L gan osgoi hypoglycaemias (siwgr gwaed isel)
  • Dylech deimlo eich bod wedi'ch grymuso i gael cymaint o ddylanwad, gwybodaeth a rheolaeth wrth ystyried pob agwedd ar eich gofal, ond yn enwedig wrth reoli diabetes yn y tymor hir, gofynnwch i staff meddygol ar unrhyw adeg o'ch arhosiad, efallai y bydd arbenigwyr nyrsio diabetig yn gofalu amdanoch hefyd.

Ar ôl eich llawdriniaeth

Cyn eich rhyddhau, byddwch yn cael meddyginiaeth, presgripsiynau/cynlluniau a gwybodaeth am sut i reoli eich diabetes tra byddwch yn gwella gartref.

Fy Mhasbort Diabetes

Mae "Fy Mhasbort Diabetes" yn llyfryn cynhwysfawr sydd wedi'i gynllunio ar gyfer cleifion â Diabetes sy'n cael llawdriniaeth sydd wedi'i addasu i'w ddefnyddio yng Nghaerdydd.  Gellir ei gyrchu isod, neu bydd yn cael ei roi i chi yn eich ymweliad POAC.  Dewch ag ef gyda chi i bob ymweliad POAC a chlinig llawfeddygol wrth baratoi ar gyfer eich llawdriniaeth, a hefyd pan fyddwch yn cael eich derbyn.  

Mae'n ein helpu ni, a chi, i baratoi a gwneud y gorau o'ch diabetes cymaint â phosibl, ac yn mynd â chi drwy bob cam o'r broses cyn eich llawdriniaeth, yn ystod eich arhosiad yn yr ysbyty, a dychwelyd adref.


"Fy Mhasbort Diabetes"

Adnoddau eraill ar gyfer diabetes

Y dudalen nesaf yw Cyngor ar Feddyginiaethau

Defnyddiwch y dolenni isod i lywio o amgylch safle POAC

Dilynwch ni