Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r Clinig Asesu Cyn Llawdriniaeth (POAC)?

Mae'r Clinig Asesu Cyn Llawdriniaeth (POAC) yn cynnal clinigau yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ac Ysbyty Athrofaol Llandochau. 

Beth yw POAC?

Nod POAC, neu’r Clinig Asesu Cyn Llawdriniaeth, yw asesu eich addasrwydd chi ar gyfer llawdriniaeth a/neu anesthetig. 

Yn gynnar yn y daith tuag at lawdriniaeth, bydd cleifion yn ymgymryd â POAC, naill ai wyneb yn wyneb neu o bell, a’n nod yw:

  • Eich 'paratoi' chi am lawdriniaeth
  • Gwneud llawdriniaeth mor ddiogel â phosibl, a lleihau’r posibilrwydd o gymhlethdodau ac achosion o ganslo
  • Rhoi’r cyfle gorau i chi gael adferiad cyflymach, gwell
  • Rydym yn aml yn trafod risgiau llawdriniaeth a gwella ar ôl llawdriniaeth, gan geisio lleihau'r risgiau lle y gallwn, fel bod gennych gymaint o wybodaeth ag sydd ei hangen arnoch i sicrhau bod y llawdriniaeth a gynlluniwyd neu’r llawdriniaeth arfaethedig yn iawn i chi, a gelwir hyn yn Gwneud Penderfyniadau ar y Cyd (Centre for Perioperative Care Link).
Dilynwch ni