Neidio i'r prif gynnwy

Beth i'w ddisgwyl yn eich ymweliad POAC

Mae'r cyfnod cyn llawdriniaeth yn gyfle i ni 'optimeiddio' a gwella ar agweddau ar eich iechyd er mwyn gwneud llawdriniaethau yn fwy diogel, lleihau'r risg o gymhlethdodau ac i’ch helpu i adfer yn gyflymach ac yn 'well'.


Dysgu amdanoch chi - Y “HSQ”

I lawer, bydd hyn yn dechrau gyda chwblhau'r hyn rydyn ni'n ei alw'n “Holiadur Sgrinio Iechyd”, neu HSQ.

Bydd y ffurflen hon yn cael ei rhoi i chi i'w llenwi gan eich tîm llawfeddygol, gan y tîm POAC, neu i'w llenwi'n electronig.

Mae'r HSQ yn ein helpu i gael gwybod am agweddau ar eich iechyd, ffitrwydd corfforol ac unrhyw feddyginiaethau y gallech fod yn eu cymryd.

Mae'r HSQ yn cynnwys cwestiynau a fydd yn cael eu harchwilio ymhellach yn eich ymweliad POAC, byddwn yn gofyn am:

  • Iechyd cyffredinol, gweithgarwch corfforol a hanes meddygol
  • Llawdriniaethau blaenorol, anaestheteg, ac unrhyw broblemau y gallech chi neu'ch teulu fod wedi eu profi
  • Alergeddau a meddyginiaethau rydych yn eu cymryd, gan gynnwys y rhai gan eich meddyg teulu a dros y cownter
  • Hanes ac arferion ysmygu, alcohol a chyffuriau hamdden

Ar ôl cwblhau HSQ, byddwch naill ai yn cael ymgynghoriad ffôn, neu apwyntiad clinig gyda nyrs asesu cyn llawdriniaeth arbenigol, gellir cyfuno hyn â chwrdd â meddyg Anesthetig, mynychu clinigau arbenigol neu gael ymchwiliadau, gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y gwahanol apwyntiadau hyn isod.
 


Clinigau dan Arweiniad Nyrsys

Yn gyffredinol, mae apwyntiadau clinig dan arweiniad nyrsys yn cymryd tua awr, er y gall cleifion ag achosion syml gymryd llai o amser, a gall cleifion ag achosion mwy cymhleth gymryd mwy o amser yn dibynnu ar gymhlethdod y llawdriniaeth a gynlluniwyd.

Ar ôl gweld nyrs arbenigol, efallai y bydd angen i chi weld Anesthetydd hefyd neu gael ymchwiliad pellach, profion, neu driniaeth weithiau, gallwn drefnu'r rhain weithiau ar yr un diwrnod, ond efallai y gofynnir i chi ddychwelyd ar ddiwrnod arall.
 


Clinigau Anesthetydd

Efallai y bydd angen i chi weld Anesthetydd fel rhan o'ch paratoad ar gyfer llawdriniaeth.  Lle gallwn ei drefnu, bydd hyn yr un diwrnod ag apwyntiadau eraill.  Bydd yr apwyntiad hwn yn gyfle i chi drafod anesthesia, risgiau, ffyrdd o leihau risgiau cyn eich llawdriniaeth.

 

 

 

 

Isod mae rhai dolenni i wefannau sy'n esbonio SDM yn fanylach.  Gellir defnyddio offeryn BRAN i helpu cleifion gyda phenderfyniadau am ofal, mae'n rhannu penderfyniadau yn bedair rhan; Buddion unrhyw benderfyniad, Risgiau dan sylw, Triniaethau Amgen a allai fod ar gael, ac yn olaf "Beth os ydw i'n gwneud dim? “.

Clinig Profion Ymarfer Corff Cardiopwlmonaidd (CPET)

Efallai y gofynnir i rai cleifion gael Profion Ymarfer Corff Cardiopwlmonaidd (CPET, neu weithiau CPEX).  Mae'r prawf yn cynnwys pedalu ar feic statig, wrth anadlu trwy ddarn ceg a byddwn yn monitro eich calon drwy system sy’n olrhain eich calon yn barhaus (ECG). Defnyddir y prawf i asesu perfformiad eich calon a'ch ysgyfaint a bydd yn darparu asesiad cywir o'ch ffitrwydd corfforol.

Mae CPET yn helpu i asesu'r risg o gael llawdriniaethau mawr. Rydym yn gwybod bod pobl fwy heini yn cael canlyniadau gwell o lawdriniaeth; mae cleifion mwy heini yn llai tebygol o gael cymhlethdodau ac yn fwy tebygol o gael eu rhyddhau adref yn gynharach ar ôl eu llawdriniaeth.  

Mae apwyntiadau fel arfer yn para awr, ac yn cynnwys rhai ymarferion anadlu ac yna 10-15 munud o feicio ar y beic statig.  Ar ôl y prawf, byddwn yn siarad â chi am ganlyniadau'r prawf. Byddwn yn trafod y risg sy'n gysylltiedig â chael llawdriniaeth a byddwn hefyd yn trafod ffyrdd o wella'ch ffitrwydd a lleihau eich risgiau. O bryd i'w gilydd, mae angen rhagor o brofion neu atgyfeiriadau yn dilyn CPET (byddwn yn dweud wrthych os oes angen hyn). 

Gwyliwch y fideo neu cliciwch ar y dogfennau isod i gael rhagor o wybodaeth am beth i'w ddisgwyl gyda'ch apwyntiad CPET. 

Poster gwybodaeth CPET [Saesneg]
Taflen wybodaeth CPET [Saesneg]


Profion ac Ymchwiliadau yn ystod POAC

Efallai y byddwn hefyd yn cynnal ymchwiliadau a phrofion fel rhan o'r broses asesu cyn llawdriniaeth, gall y rhain gynnwys:

  • Electrocardiogram (ECG) - lle edrychwn ar weithgaredd trydanol eich calon
  • Profion gwaed
  • Profion anadlu (spirometreg neu apnoea cwsg) - a gynhelir mewn clinigau ar wahân
  • Ecocardiogram (eco) - sgan uwchsain o'ch calon. Gellir ei wneud weithiau ar yr un diwrnod â'ch apwyntiadau clinig
  • CPET (fel uchod)

Cawn y canlyniadau ar gyfer rhai o’r profion hyn yn ystod eich apwyntiad, fodd bynnag, bydd rhai canlyniadau'n dod yn ôl wedi hynny, a byddwn yn cysylltu â chi neu'ch meddyg teulu os oes unrhyw bryderon.


Triniaeth Anemia o fewn POAC

Mae anemia (llai o gelloedd gwaed coch na’r disgwyl) yn gyffredin ymhlith rhai cleifion sy'n aros am lawdriniaeth, un o achosion hyn yw diffyg haearn.  Efallai y bydd cleifion ag anemia sy'n deillio o ddiffyg haearn, yn cael cynnig triniaethau i gywiro hyn, mae hyn yn helpu i wneud eich llawdriniaeth a'ch arhosiad yn yr ysbyty yn fwy diogel, lleihau'r tebygolrwydd y bydd angen trallwysiad gwaed arnoch, a chynorthwyo eich adferiad.

Bydd rhai cleifion yn cael eu cynghori i gymryd tabledi haearn, efallai y bydd eraill yn cael cynnig apwyntiad i gael trwythiad haearn mewnwythiennol, mae hon yn driniaeth 1-2 awr.  Dyma rywfaint o wybodaeth am ein trwythiadau haearn.

Mae'r dudalen nesaf yn ymwneud â Rhagsefydlu; sut i helpu eich hun i fod yn fwy ffit ar gyfer eich llawdriniaeth.

Defnyddiwch y dolenni isod i lywio o amgylch safle POAC.

Dilynwch ni