Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion Preifat a Thramor

Cynhelir Gwasanaethau Cleifion Preifat Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd a'r Fro yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau. Os ydych yn glaf preifat, byddwch yn cael eich triniaeth ar amser a dyddiad sy'n addas i chi a'ch Ymgynghorydd.

Cynigiwn amrywiaeth o wasanaethau cyffredinol ac arbenigol. Yn anffodus, nid oes gennym uned bwrpasol i gleifion preifat, ac ni ellir sicrhau ystafelloedd sengl.

Os hoffech chi geisio cael triniaeth breifat, gofynnwch i'ch meddyg teulu eich atgyfeirio i BIP Caerdydd a'r Fro. 

Ymholiadau Cyffredinol

Os oes angen gwybodaeth o natur feddygol arnoch, cysylltwch â'ch Ymgynghorydd. Ar gyfer pob ymholiad arall, e-bostiwch y Tîm Cleifion Preifat.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni