Gall mynd i'r ysbyty beri straen mawr i blentyn a'i deulu. Dyma ychydig o wybodaeth i geisio gwneud yr amser hwn yn haws i chi.
Cyn eich ymweliad
Bydd angen i chi ddod â'r canlynol gyda chi.
- Pethau ymolchi hanfodol
- Ffôn symudol a gwefrydd
- Dillad cyfforddus
- Dillad nos/ sliperi neu esgidiau amgen
- Llyfrau a chylchgronau
- Ffonau clust ar gyfer defnyddio dyfeisiau electronig (yn enwedig gyda'r nos)
- Te/coffi a'ch mwg eich hun
Mae gan yr ysbyty WIFI am ddim os ydych chi'n mewngofnodi i Wifi Am Ddim Elusen Iechyd CAF
Mae angen i chi bacio'r canlynol ar gyfer eich plentyn:
- Hoff degan neu dedi
- Dillad nos - pyjama's, sliperi a gŵn llofft
- Dillad cyfforddus sbâr a dillad isaf
- Pethau i'w helpu i basio'r amser e.e. comics, llyfrau lliwio, gemau ac ati
- Ffonau clust ar gyfer dyfeisiau electronig
Efallai y bydd babanod hefyd angen:
- Dymis
- Poteli
- Jel/cylch cnoi
- Cewynnau
- Cadachau babanod
- Hufen cewynnau arferol