Mae Canolfan y Fron yn darparu gwasanaeth i gleifion yn nalgylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Mae Canolfan y Fron yn darparu gwasanaeth i gleifion yn nalgylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Daw'r rhan fwyaf o atgyfeiriadau drwy Feddygon Teulu, ond daw rhai drwy dimau clinigol eraill o fewn y bwrdd iechyd. Rydym yn rheolaidd yn gweld cleifion sydd wedi cael Sgan CT i ymchwilio i broblem glinigol arall lle mae annormaledd o fewn y fron yn cael ei weld a allai fod angen ymchwilio ymhellach iddo.
Mae'r ganolfan yn derbyn 400 o atgyfeiriadau newydd y mis ar gyfartaledd. Gofynnir i Feddygon Teulu wneud atgyfeiriadau drwy'r system atgyfeirio 'ar-lein' (Porth Clinigol Cymru) a chategoreiddio atgyfeiriadau fel Achosion Brys lle mae Amheuaeth o Ganser (USC) / Brys neu Gyffredin. Gofynnir i feddygon teulu ystyried canllawiau atgyfeirio NICE wrth gyfeirio cleifion a USC (Gweler isod).
Ar hyn o bryd, mae tua 60% o atgyfeiriadau gan feddygon teulu yn cael eu categoreiddio ganddynt fel USC. Yn ffodus, dim ond tua 8% o'r cleifion y cyfeirir atynt fel USC sy’n cael diagnosis terfynol o ganser y fron. Caiff tua 1-2% o'r cleifion y cyfeirir atynt fel rhai brys neu gyffredin ddiagnosis terfynol o ganser y fron, yn aml fel canfyddiad damweiniol ar famogram.
Gellir gweld cleifion lle mae'r diagnosis o ganser yn amlwg, neu gleifion â llid / crawniadau acíwt yn gyflym os bydd meddyg teulu yn cysylltu â'r Ganolfan yn uniongyrchol i dynnu sylw at bryderon penodol.
Er mwyn delio â'r nifer fawr o atgyfeiriadau, cynhelir clinigau i gleifion newydd ar ddydd Llun, dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener. Ar yr un pryd, bydd clinigau eraill hefyd yn rhedeg ar gyfer gwaith dilynol ar gleifion sydd wedi cael profion ac ar gyfer y rhai sy'n cael eu trin ar gyfer canser y fron.
1.4.1 Cyfeirio pobl sy'n defnyddio atgyfeiriad llwybr canser tybiedig ar gyfer canser y fron os ydynt:
1.4.2 Ystyried atgyfeiriad llwybr canser tybiedig ar gyfer canser y fron mewn pobl:
1.4.3 Ystyried atgyfeiriad nad yw'n un brys mewn pobl o dan 30 oed sydd â lwmp yn y fron heb esboniad gyda phoen neu hebddo.
Gweler hefyd argymhellion 1.16.2 ac 1.16.3 am wybodaeth am geisio cyngor arbenigol.
Cwestiynau Cyffredin Atgyfeirio Canolfan y Fron
Mae rhai llawdriniaethau ar y fron yn cael eu hystyried yn gosmetig gan GIG Cymru a dim ond mewn rhai amgylchiadau y gellir ystyried llawdriniaeth. Mae meini prawf eithaf llym ar gyfer lleihau'r fron yn enwedig.
Mae canllawiau Gynaecomastia ar gyfer asesu, atgyfeirio ac ymchwilio dynion â symptomau'r fron sy'n gyson â gynaecomastia, ac maen nhw’n cwmpasu'r broses o ofal sylfaenol i glinigau arbenigol Uned y Fron ac Endocrinoleg.