Mae'r rhan fwyaf o ganserau'r fron yn cael eu canfod gan bobl sy'n sylwi ar newidiadau anarferol yn eu bron neu gesail ac yn mynd i weld eu meddyg teulu.
Arwyddion a symptomau clinigol
Mae angen ymchwilio i'r symptomau canlynol er mwyn diystyrru neu gadarnhau canser y fron:
- Lwmp caled gyda sefydlogiad – efallai y bydd chlymiad croen, crychau, lliw neu siâp y fron wedi newid.
- Lwmp sydd wedi mynd yn fwy.
- Lwmp newydd, ar wahân ar y fron.
- Lwmp newydd mewn nodau sy'n bodoli eisoes.
- Ardal ganolog barhaus o lympiau neu newid canolog yng ngwead y fron.
- Newid cynyddol ym maint y fron gydag arwyddion o oedema.
- Nodwlaraeth anghymesur yn parhau ar ôl cyfnod.
- Ystumio croen.
- Hanes blaenorol o ganser y fron gyda lwmp newydd neu symptomau amheus.
- Rhedlif newydd unochrog o'r deth, rhedlif o waed neu wrthdroad newydd o'r deth.
- Ecsema ar y tethi neu newid nad yw'n ymateb i driniaethau argroenol.
- Lwmp dan y cesail
- Gall wlseriad croen y fron ddangos canser y fron datblygedig lleol.