Ap rhyngweithiol yw Ap BAPS Cymru sy'n cynnwys ymarferion ffisiotherapi i'w defnyddio ar ôl llawdriniaeth y fron neu geseiliol. Mae'n cynnwys fideos enghreifftiol o gleifion go iawn, cyfarwyddiadau a disgrifiadau sain.
Mae'n cynnwys hunan-wiriadau a gwobrau a gall yr Ap eich atgoffa i wneud yr ymarferion. Yn ogystal, mae dolenni defnyddiol, Cwestiynau Cyffredin a sesiwn ar ddal anadl dwfn ysbrydoledig, sy'n gallu cael ei ddefnyddio fel techneg ymlacio a hefyd fel triniaeth i rai cleifion sydd â chanser y fron ar yr ochr chwith yn ystod radiotherapi.
Cafodd yr Ap ei ddatblygu gan un o Lawfeddygon Canolfan y Fron mewn cydweithrediad â chlaf a'r adran ffisiotherapi yn Felindre. Weithiau mae'n ddefnyddiol bod aelodau'r teulu hefyd yn lawrlwytho'r Ap - mae pawb yn gallu ymuno.
Lawrwythwch yr Ap o'r App Store neu Google Play ar gyver eich android neu iPhone neu iPad. Gallwch chwilio am “BAPS App Wales” neu lawrlwytho'n uniongyrchol: